Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol sy'n trafod ei gynnydd a’i gyflawniadau, yn ogystal â rhai digwyddiadau heriol a gafwyd yn ystod 2017-18.
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cymeradwyo cyfrifon Comisiwn y Cynulliad am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018, ac wrth wneud hynny, canmolwyd y wybodaeth berthnasol a dibynadwy a ddarparwyd gan y Comisiwn ynghyd â datgeliadau’r datganiad ariannol a oedd yn ddiduedd, teg a chlir.
Yn dilyn lansio Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod Eisteddfod yr Urdd ym mis Mehefin cafwyd ymgynghoriad a oedd yn cynnwys barn dros 5,000 o blant a phobl ifanc ar draws y wlad.
Bydd yr etholiad cyntaf ar gyfer y senedd newydd yn digwydd yn yr hydref a bydd aelodau yn cwrdd am y tro cyntaf ddechrau flwyddyn nesaf.
Hefyd, lansiodd y Comisiwn ymgynghoriad cyhoeddus mewn ymateb i ganfyddiadau'r Panel Annibynnol ar Ddiwygio Etholiadol, gan gasglu dros 3,200 o ymatebion a fydd yn helpu i lunio senedd sy'n addas i Gymru.
Mae Brexit wedi bod yn thema gyson y Cynulliad hwn gyda'r Comisiwn yn ymrwymo adnoddau sylweddol i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn y trafodaethau parhaus, yn arbennig drwy waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Mae nifer o ymchwiliadau'r Pwyllgor wedi edrych ar effaith Brexit ar Gymru hefyd.
Yn ystod yr haf, roedd y Senedd yn ganolbwynt sylw'r cyhoedd pan groesawodd gerflun pabi y Weeping Window a'r arddangosfa Cofio, a ddenodd tua 85,000 o ymwelwyr â Bae Caerdydd.
Cafwyd cyfnodau heriol i'r Cynulliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys marwolaeth y cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, y cynhaliwyd ei angladd yn y Senedd, a marwolaeth un o Aelodau presennol y Cynulliad, Carl Sargeant.
Cyflwynwyd polisi urddas a pharch newydd ar ôl i honiadau o ymddygiad amhriodol ac aflonyddu ddod i'r amlwg. Mae'r polisi newydd yn ei gwneud yn haws i bobl sy'n gweithio gydag Aelodau’r Cynulliad a'r sefydliad i roi gwybod am ddigwyddiadau yn gyfrinachol.
Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, “Bu'n rhaid i'r Cynulliad wynebu nifer o heriau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
“Yn wleidyddol, mae'r tirlun cyfansoddiadol newidiol, o ganlyniad i benderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn golygu bod rhaid i'n Senedd ymateb mewn modd effeithiol a hyblyg er budd dinasyddion Cymru.
“Bu'n rhaid i Aelodau wynebu nifer o heriau personol, yn enwedig o ran marwolaeth ein cydweithiwr, Carl Sargeant.
“Drwy'r cyfan, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi dangos gwydnwch a dewrder mawr ac wedi parhau i fod yn gadarn yn ei natur benderfynol, nid yn unig wrth gyflawni ei flaenoriaethau ond hefyd wrth barhau i wella'r ffordd rydym yn gweithio.
Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
“Fel staff y Comisiwn, rydym yn cefnogi ein senedd genedlaethol ar adeg pan gaiff penderfyniadau sylweddol eu gwneud ynghylch trefniadau cyfansoddiadol yn y dyfodol.
“Mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â phobl Cymru mewn modd effeithiol llawn dychymyg. Mae rhaglen ddiwygio, ynghyd â'r canlyniadau yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn golygu bod yna gynnydd yn ein llwyth gwaith ar adeg, yn debyg i nifer o sefydliadau eraill, lle mae'n rhaid i ni gyfyngu ar gyllidebau a gwneud y gorau o bob ceiniog sy'n cael ei hymddiried ynom.
“Mewn cyfnod o'r fath, mae'n dda gwybod bod ein harolygon staff i gyd yn cyfeirio at weithlu sy'n ymgysylltu, yn ymrwymedig ac yn cael ei yrru gan werthoedd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r tîm drwy flwyddyn brysur arall.”
Darllen yr adroddiad llawn:
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 (PDF, 8 MB)