Comisiynydd Pobl Hyn Cymru yn dod i gyfarfod pwyllgor Cynulliad am y tro cyntaf

Cyhoeddwyd 26/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Comisiynydd Pobl Hyn Cymru yn dod i gyfarfod pwyllgor Cynulliad am y tro cyntaf

Bydd Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru, yn dod i gyfarfod pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf yn ei rôl newydd ddydd Mercher 2 Gorffennaf. Bydd yn dod i’r Cynulliad i gynnal trafodaeth â’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal.

Bydd Ms Marks, a benodwyd yn Gomisiynydd Pobl Hyn dros Gymru ym mis Ebrill eleni, yn egluro ei blaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a chanolig ac yn trafod ei rôl ag aelodau’r pwyllgor. Bydd y Comisiynydd hefyd yn pwysleisio’r meysydd sy’n pryderu pobl hyn er mwyn helpu’r pwyllgor i roi ffocws i waith y pwyllgor wrth iddo graffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yn yr un cyfarfod, bydd y pwyllgor hefyd yn trafod dogfennau cyhoeddedig ar gyfer pobl â nam ar eu golwg â chynrychiolwyr Deafblind UK.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Ann Jones, “Mae rôl y comisiynydd pobl hyn yn bwysig iawn ac rwyf wrth fy modd bod Ms Marks wedi derbyn y swydd a'i bod ymrwymedig i warchod a hyrwyddo hawliau pobl hyn yng Nghymru. Wrth gwrs, rydym yn falch bod pobl yng Nghymru yn mwynhau bywydau hirach nag yn y gorffennol, ond mae pobl hyn yn dal i wynebu llawer o heriau ac anawsterau hyd heddiw. Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn y mae Ms Marks yn ei ddisgwyl o’i rôl newydd a sut y gallwn ni fel pwyllgor ei chynorthwyo i sicrhau bod lleisiau pobl hyn yn cael eu clywed.“

Cynhelir y cyfarfod yn ystafell bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd ddydd Mercher 2 Gorffennaf rhwng 9.15am a chanol dydd.

Mwy o wybodaeth am y pwyllgor