Comisiynydd Safonau'r Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad ar gyfer y flwyddyn y rhoddwyd mwy o bwerau iddo
5 Hydref 2011
Heddiw (dydd Mercher 5 Hydref), cyhoeddodd Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau’r Cynulliad Cenedlaethol, ei adroddiad blynyddol cyntaf.
Penodwyd Mr Elias i’r rôl ym mis Rhagfyr 2010 ar ôl i’r Mesur Cynulliad, a roddodd bwerau ychwanegol i’r Comisiynydd archwilio cwynion am Aelodau’r Cynulliad, orffen ei thaith lwyddiannus drwy’r broses ddeddfu.
Yn ei adroddiad cyntaf fel Comisiynydd, mae Mr Elias yn dadlennu bod 17 o gwynion wedi’u gwneud yn erbyn Aelodau yn 2010-11, a bod naw ohonynt yn annerbyniadwy.
Mae hefyd yn nodi ei safbwynt ynghylch sut y gallai’r rôl gryfach hon ddatblygu gwaith Richard Penn, y Comisiynydd blaenorol, a sut y dylid ei defnyddio i hyrwyddo’r safonau uchaf ym mywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd Mr Elias: “O dan y Mesur, fy swydd, yn syml iawn, yw bod yn gyfrifol am geisio diogelu safonau, ond mae hefyd yn golygu cymryd rhan yn y gwaith o hyrwyddo ac annog y safonau ymddygiad uchaf posibl gan Aelodau’r Cynulliad wrth iddynt ymgymryd â’u swyddi cyhoeddus pwysig.
“Yn gyntaf, mewn cysylltiad â hyn, rwyf wedi hybu diwylliant lle rydym i gyd yn gyfrifol am yr ymddygiad gorau posibl, sef ein bod i gyd yn ymdrechu i gadw a gwella enw da’r Cynulliad Cenedlaethol a’i Aelodau, a byddaf yn parhau i hybu hyn, ac nad fy ngwaith i yw bod yn elyn i unrhyw Aelod, ac yn bendant nid i’r Cynulliad.
“Ni fyddaf, fodd bynnag, yn gwneud llai na gorfodi’r safonau yn gadarn, a byddaf, pan fydd angen hynny, yn dwyn ymchwiliad ar unrhyw Aelod.
“Yn ail, rwyf yn awyddus i chwalu unrhyw syniad bod safonau yn cael eu cadw mewn blwch a gaiff ei arddangos ar ddyddiau gwyl a gwyliau. Nid yw’r safonau priodol ar gyfer Aelodau’r Cynulliad yn ddewisol nac yn cael eu cadw ar gyfer achlysuron arbennig. Maent yn rhan annatod o fodolaeth yr Aelodau pan maent ar fusnes y Cynulliad, a dylent ddod yn ail natur i bob un yn gyflym iawn, os nad ydynt eisoes.
“Yn drydydd, ond nid yn olaf, mae hawl gan yr etholwyr i ddisgwyl safonau uchel gan eu cynrychiolwyr. Mae fy swydd yn golygu sicrhau bod y cyhoedd yn gallu defnyddio dull o gwyno sy’n dwyn i gyfrif pan fydd angen ac sy’n ymdrin â materion mewn ffordd sy’n hawdd ei defnyddio ac sy’n effeithiol iddynt hwy.”
- Rhwng 1 Ebrill a 30 Tachwedd 2010, cafodd Richard Penn, y Comisiynydd Safonau ar y pryd, bump o gwynion. Roedd y pump yn ymwneud â honiadau o dorri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, ond ni chawsant eu derbyn. Nid oedd yr un gwyn yn aros pan ddaeth penodiad Richard Penn fel Comisiynydd Safonau i ben ar 30 Tachwedd 2010.
-Yn ystod fy nghyfnod yn y swydd, rhwng mis Rhagfyr 2010 a mis Mawrth 2011, cafodd 12 o gwynion a chwynion rhagarweiniol eu cofnodi. Gwrthodais bedair o’r rhain fel rhai annerbyniadwy. Parhaodd fy ymchwiliadau i’r wyth arall tan 2011-12. Byddaf yn cyflwyno adroddiad ar dderbyniadwyedd y rhain yn fy Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesaf.