Coronofeirws – Cynulliad yn newid rheolau i’w alluogi i barhau i weithredu

Cyhoeddwyd 18/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munud

Mae’r Cynulliad heddiw wedi pleidleisio o blaid newid cyfres o Reolau Sefydlog er mwyn ei alluogi i barhau â’i waith hollbwysig yn craffu a deddfu yn ystod y cyfnod nesaf yma ac mewn ymateb i’r sefyllfa Coronafeirws. 
 
Pleidleisiodd y Cynulliad o blaid:  
  • Galluogi Cadeirydd Dros Dro i gadeirio’r Cyfarfod Llawn gyda holl bwerau’r Llywydd pan na all y Llywydd na’r Dirprwy ddod i’r Cynulliad.
  • Ethol Llywydd Dros Dro Dynodedig i weithredu pe na bai’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd mewn lle i weithredu o gwbl
  • Dewis David Melding, AC, fel y Cadeirydd Dros Dro a’r Llywydd Dros Dro 
  • Caniatau i’r Cyfarfod Llawn fod yn gyfarfod cyhoeddus heb yr angen i agor y galeri i’r cyhoedd, ac i ddarlledu cyhyd â phosib 

Fe gyhoeddodd y Llywydd hefyd newid i drefn y Busnes yr wythnos nesaf gan gadarnhau y bydd y Cyfarfod Llawn yn cwrdd ar un diwrnod yn unig wythnos nesaf, ar ddydd Mercher, gyda sesiwn yn y bore a sesiwn yn y prynhawn. 
 
Bydd hyn yn galluogi i Gwestiynau i’r Prif Weinidog gael eu cynnal fel yr arfer, cyn i Weinidogion wneud datganiadau er mwyn diweddaru Aelodau ar effeithiau diweddaraf y Coronafeirws ar eu meysydd polisi. Bydd hyn hefyd yn cyfyngu ar yr amser y bydd rhaid i Aelodau ei dreulio yn y Senedd.
 
Dywedodd y Llywydd fod y Pwyllgor Busnes yn parhau i drafod ffyrdd o alluogi’r Cynulliad i gwrdd ac i barhau â’i waith dros gyfnod y toriad er mwyn sicrhau fod y Llywodraeth yn gallu diweddaru Aelodau a bod y gwrthbleidiau yn cael y cyfle i graffu mewn modd amserol a phriodol.
 
Wrth gyflwyno’r cynnig dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC: 
 
“Mae’r newidiadau hyn i’r Rheolau Sefydlog yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r Cynulliad i barhau â’n gwaith hyd orau ein gallu mewn amgylchiadau digynsail.”