Llun yr Arglwydd Elis-Thomas, cyn Lywydd y Senedd. Llun gan Ric Bower, 2011

Llun yr Arglwydd Elis-Thomas, cyn Lywydd y Senedd. Llun gan Ric Bower, 2011

"Craig sylfaen ein Senedd" - Teyrnged i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Cyhoeddwyd 07/02/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/02/2025

Mae’r Llywydd wedi talu teyrnged i “graig sylfaen ein Senedd” yn dilyn marwolaeth ei Llywydd cyntaf, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a gyhoeddwyd heddiw, ddydd Gwener 7 Chwefror 2025.

Yr Arglwydd Elis-Thomas oedd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr oedd ar y pryd a chafodd ei ethol i wasanaethu yn y rôl am dri thymor, a hynny rhwng 1999 a 2011. 

Fel ffigwr allweddol ar y daith i ddatganoli, arweiniodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas y Cynulliad newydd sbon drwy ei 12 mlynedd cyntaf o fodolaeth. Ei arweinyddiaeth gadarn yn ystod y cyfnod hwn a roddodd y Cynulliad ar y trywydd i fod y senedd y mae heddiw.

Dywedodd Llywydd y Senedd, y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS:

“Mae hi’n anodd dychmygu bywyd gwleidyddol Cymru heb Dafydd Elis-Thomas. Ers dechrau’r 1970au bu’n ffigwr hollbresennol, wedi cymryd ei sedd yn Nhŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi ac ein Senedd.

“Fel Llywydd cyntaf y Senedd, roedd yn eiddgar i sefydlu democratiaeth gyfoes o’r dechrau, a dysgu gan Seneddau eraill beth i’w wneud a beth i beidio ei wneud.

“Dafydd oedd ceidwad y cyfansoddiad Cymreig, ond un oedd bob amser yn barod i feddwl y tu allan i’r bocs.

"Pan ddaeth yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, ef oedd y person iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn. Daeth â phrofiad seneddol helaeth i’r rôl, ond gyda gweledigaeth ddyfeisgar. Nid oedd yn barod i efelychu traddodiadau’r 19eg ganrif, ond yn hytrach creu senedd ddigidol a chynhwysol ar gyfer yr 21ain ganrif.

“Ef oedd craig sylfaen ein Senedd. Rydym yn galaru am ei golled ac mae ei deulu a’i ffrindiau yn ein meddyliau a’n gweddïau.”

Bydd y baneri yn cael eu gostwng y tu allan i’r Senedd, mewn teyrnged iddo. 

Bywgraffiad

Daeth yr Arglwydd Elis-Thomas yn un o'r ychydig wleidyddion i gynrychioli etholwyr yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd. Ef oedd arweinydd Plaid Cymru rhwng 1984 ac 1991, pan fu’n cynrychioli etholaeth Meirionnydd ac yna Meirionnydd Nant Conwy fel Aelod Seneddol. Gyda dyfodiad datganoli, cafodd ei ethol i gorff newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, gan gynrychioli Meirionnydd Nant Conwy yn gyntaf, ac yna Dwyfor Meirionnydd tan 2021. Fel Aelod Annibynnol, fe’i penodwyd yn 2017 i wasanaethu fel Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru. 

Yn ystod gyrfa o bum degawd mewn bywyd cyhoeddus, cyfrannodd at waith nifer fawr o gyrff cyhoeddus ym maes y celfyddydau, y Gymraeg a’r amgylchedd, ac ef oedd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1994 a 1999. Ym 1992, cafodd ei urddo’n arglwydd am oes, fel y Barwn Elis-Thomas.