Siambr Senedd

Siambr Senedd

Creu senedd sy'n cynrychioli ac yn gwasanaethu pawb

Cyhoeddwyd 02/07/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/07/2025

Heddiw, cyhoeddodd Comisiwn y Senedd ddechrau Adolygiad Seneddol sy’n gynhwysol ac yn ystyriol o deuluoedd, i wirio pa mor dda y mae rheolau, diwylliant, cyfleusterau a phrosesau gwneud penderfyniadau'r Senedd yn cynrychioli ac yn gwasanaethu pawb.

Bydd yn mesur cynnydd yn erbyn safonau rhyngwladol ar gyfer seneddau sy'n sensitif i rywedd a nodir gan yr Undeb Rhyng-Seneddol, Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, a’r Sefydliad er Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop.

Gan weithio gydag Aelodau, staff ac academyddion, bydd yr adolygiad yn cwmpasu ystod eang o faterion. Bydd hyn yn cynnwys cynrychiolaeth a chyfranogiad, arferion a diwylliant, ymgysylltu â'r cyhoedd, ac allbynnau (deddfu a gwaith goruchwylio/craffu). Bydd yr adolygiad yn archwilio sut mae rhywedd yn rhyngweithio â nodweddion eraill i lunio profiadau.

Mae'r prosiect hwn yn cyflawni argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Biliau Diwygio y llynedd, ac mae'n dilyn adolygiadau tebyg yn seneddau'r DU, yr Alban ac Iwerddon.

Bydd academydd annibynnol yn cynnal yr adolygiad, a fydd yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd trawsbleidiol, dan arweiniad Joyce Watson AS. Bydd y gwaith yn dechrau ar unwaith, ac mae'r Bwrdd yn anelu at gyhoeddi'r adroddiad a'i argymhellion erbyn diwedd 2025.

Aelodaeth y Bwrdd:

  • Joyce Watson AS (Cadeirydd)
  • Peter Fox AS, y Ceidwadwyr Cymreig
  • Jane Dodds AS, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
  • Siân Gwenllian AS, Plaid Cymru
  • Mike Hedges AS, Llafur Cymru