Croesawu myfyrwyr o America i’r Pierhead i ddysgu am ddatganoli yng Nghymru
16 Gorffennaf 2010
Daeth cynrychiolaeth o fyfyrwyr o Brifysgol William and Mary yn Virginia ar ymweliad â Chynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw (16 Gorffennaf) i ddysgu am ddatganoli yng Nghymru.
Mae’r myfyrwyr yn astudio datganoli fel rhan o gwrs ar Wleidyddiaeth Prydain, a daethant i Gaerdydd ar ôl bod yn San Steffan.
Cawsant eu croesawu gan David Melding, yr Aelod Cynulliad a fu, ei hun, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol William and Mary.
Traddodwyd darlithoedd gan John Osmond, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig; Lee Waters, Cyfarwyddwr Sustrans; Daran Hill, Ymgynghorydd a Sylwebydd Gwleidyddol a’r Dr Russell Holden, Cyfarwyddwr Ymgynghoriaeth Chwaraeon a Gwleidyddiaeth ‘In the Zone’.
Dywedodd David Melding AC, “Roeddwn yn falch iawn o groesawu myfyrwyr Prifysgol William and Mary i Gymru, ac i’r Pierhead, sy’n lleoliad anhygoel ac yn arddangosfa wych o Gymru.
“Mae’r myfyrwyr wedi’u cyfareddu gan y ffordd y mae gwleidyddiaeth Cymru yn esblygu ac rwyf yn falch bod ganddynt restr o siaradwyr gwadd mor enwog a fydd yn ehangu eu gwybodaeth.
“Gobeithio y bydd y myfyrwyr yn mwynhau eu hymweliad â Chaerdydd, ac yn dychwelyd i Virginia gyda dealltwriaeth gadarn o’r ffordd y mae pethau yn gweithio yma yng Nghymru.”