Croesawu'r arwr Geraint Thomas i'r Senedd

Cyhoeddwyd 07/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/08/2018

​Bydd y Senedd yn croesawu’r Cymro cyntaf i ennill y Tour de France pan fydd Geraint Thomas yn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Iau 9 Awst.

 

Llun: Team Sky

Gwahoddir pobl a fydd yn y Bae, gan gynnwys y rheini a fydd yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol, i ymuno â’r Llywydd, Elin Jones AC, a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, ar risiau’r Senedd am 16.15 i ddiolch i Geraint yn ffurfiol ar ran y wlad.

Daw’r dathliad hwn cyn y prif ddigwyddiad i’r cyhoedd, lle bydd y seiclwr o Team Sky yn seiclo ar hyd Heol Eglwys Fair i Gastell Caerdydd o 17.00 ymlaen.

Creodd Geraint Thomas pan groesodd y llinell derfyn yn ras seiclo fwyaf y byd ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 29 Gorffennaf, i goroni gyrfa hynod lle mae wedi ennill teitlau cenedlaethol, y byd ac Olympaidd ar yr heol ac ar y trac.

Cyn y digwyddiad, dywedodd Geraint:

“Mae’r gefnogaeth ers y Tour de France wedi bod yn anhygoel – gan bawb, ond gan bobl o Gymru yn enwedig.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael dod adref i Gaerdydd ddydd Iau.

“Mae’n anrhydedd aruthrol, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu i drefnu’r digwyddiad hwn.”

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad:

“Rwyf wrth fy modd o gael croesawu Geraint Thomas i’r Senedd, cartref democratiaeth yng Nghymru, cyn mynd ar daith rwy’n siŵr a fydd yn arbennig iawn i Gastell Caerdydd. Cafodd pawb wefr ac ysbrydoliaeth o wylio’i ymdrechion yn ystod y Tour de France.

“Mae’n briodol iawn ein bod yn dathlu ei lwyddiant ar yr un pryd â dathliad mawr o Gymru, sef cynnal yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd eleni.

“Mae’n llwyr haeddu’r croeso gwresog hwn ac rwy’n gobeithio y bydd pobl yn tyrru i’w longyfarch.”

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae Cymru’n wlad falch yn y byd chwaraeon ac roedd gweld Geraint ar y podiwm yn chwifio’r Ddraig Goch yn foment arbennig yn ein hanes.

“Rwy’n credu mai llwyddiant Geraint ym Mharis yw’r perfformiad gorau erioed gan unigolyn o Gymru. Mae ei lwyddiant – a’i hiwmor Cymreig arbennig drwy gydol y ras anodd hon – yn ysbrydoledig. Rydym yn edrych ymlaen at roi croeso Cymreig go iawn iddo ddydd Iau i ddiolch iddo am bopeth y mae wedi’i wneud.”

Dywedodd Anne Adams-King, Prif Weithredwr Beicio Cymru: “Mae Beicio Cymru yn edrych ymlaen at groesawu Geraint ddydd Iau. Bydd yr achlysur hwn yn destun cryn falchder i bawb ac yn foment unigryw i’w rhannu â phobl ledled Cymru.”

Bydd Geraint yn ymuno â’r Llywydd a’r Prif Weinidog ar risiau’r Senedd am 16.30. Yna bydd yn cael ei groesawu wrth iddo reidio ar hyd Heol Eglwys Fair am 17.00, cyn ymddangos ar y llwyfan eto am 17.30.

 



Manylion y digwyddiad

Ymunwch â ni y tu allan i’r Senedd i roi croeso aruthrol i Geraint Thomas yn dilyn ei fuddugoliaeth gyffrous yn y Tour de France - moment anhygoel yn ein hanes chwaraeon.

Rhagor o wybodaeth ›



 

Os ydych yn dod i weld Geraint Thomas yn y Senedd, byddem yn eich cynghori i beidio â dod â’ch beic i’r Eisteddfod oherwydd nifer y bobl a ddisgwylir.  Os ydych yn bwriadu beicio, gall fod yn fwy diogel gadael eich beic mewn stand feiciau y tu allan i’r Eisteddfod.  Ceir gwybodaeth am rwydwaith beicio Caerdydd yn http://www.keepingcardiffmoving.co.uk/cy/?lang=cycycle/where-can-i-cycle/index.html.