Cydweithredu yw’r brif neges wrth i’r Llywydd ffarwelio â Llysgennad UDA

Cyhoeddwyd 23/01/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cydweithredu yw’r brif neges wrth i’r Llywydd ffarwelio â Llysgennad UDA

23 Ionawr 2013

Cyfarfu Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, â Louis Susman, Llysgennad UDA sy’n ymadael, heddiw (23 Ionawr).

Dyma ymweliad olaf Mr Susman â Chymru cyn iddo adael y swydd a chyn i Matthew Barzun ei olynu.

Yn ystod eu cyfarfod yn y Cynulliad, cadarnhaodd y Llywydd y cysylltiadau rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a’r Unol Daleithiau.

Dywedodd y Llywydd, “Roedd y ddau ohonom yn cytuno bod cydweithredu a phartneriaeth rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru yn bwysig i’r ddwy wlad.

“Croesawodd y Cynulliad swyddogion Llysgenhadaeth UDA o’r Adran Amaethyddiaeth tra oeddent yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru.

“Mae gan y Cynulliad interniaethau i fyfyrwyr Americanaidd sy’n rhoi cyfle iddynt gael profiad gwaith o dri mis yn swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad o bob plaid wleidyddol.

“Gwnaethom hefyd drafod sut y gallem wella’r cysylltiadau hyn ymhellach, gyda gwell cysylltiadau er mwyn dysgu prosesau craffu a deddfwriaethol o’n gilydd.”