Cyfarfod ar y cyd rhwng pwyllgor y Cynulliad a’r Pwyllgor Materion Cymreig – Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol ynghylch y diwydiant cig coch
Mae Pwyllgor y Cynulliad ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Diwydiant Cig Coch Cymru a Phwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin wedi cytuno i gynnal cyfarfod anffurfiol ar y cyd drwy linc fideo i gyfnewid gwybodaeth ynghylch y gwaith o graffu ar y gorchymyn ynghylch y diwydiant cig coch.
Nid yw dyddiad y cyfarfod wedi cael ei gadarnhau eto, ond bydd yn cael ei gynnal wedi i bwyllgor y Cynulliad orffen cymryd tystiolaeth, a chyn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Materion Cymreig gyda Gweinidogion y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig.
Bydd y cyfarfod yn galluogi pwyllgor y Cynulliad i ddisgrifio’r penderfyniadau y mae wedi eu gwneud ynghylch y Gorchymyn arfaethedig ac i godi unrhyw faterion nad ydynt wedi’u datrys. Gall y Pwyllgor Materion Cymreig ddefnyddio’r wybodaeth honno i hysbysu ei sesiwn dystiolaeth, y bwriedir ei chynnal ar 15 Rhagfyr.
Dywedodd Mick Bates AC, cadeirydd pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol:
“Rwyf yn falch iawn bod y Pwyllgor Materion Cymreig wedi derbyn fy nghynnig i gynnal cyfarfod ar y cyd gan ddefnyddio’r linc fideo. Hoffwn fanteisio ar bob dull o gyfathrebu sydd ar gael i’r ddau bwyllgor fel y gall y broses graffu fod mor gadarn â phosibl.”
Dywedodd Dr Hywel Francis AS, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:
“Rwyf yn gobeithio sicrhau y bydd trafodaethau anffurfiol gyda Gweinidogion y Cynulliad ac ymweliadau i’r Cynulliad yn nodwedd reolaidd o waith fy mhwyllgor ar orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol. Yr wyf o hyd yn fodlon trafod gwaith y pwyllgor gyda phob Aelod Cynulliad, waeth pa blaid wleidyddol y mae’n aelod ohoni. “