Cyfarfod Llawn cyntaf y Pedwerydd Cynulliad

Cyhoeddwyd 10/05/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cyfarfod Llawn cyntaf y Pedwerydd Cynulliad

10 Mai 2011

Bydd y 60 Aelod yn cyfarfod ar gyfer Cyfarfod Llawn cyntaf y Pedwerydd Cynulliad a fydd yn digwydd yfory (11 Mai) am 15.00 yn y Senedd.

Dwy o’r eitemau sydd ar yr agenda yw ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd newydd i’r Cynulliad.

Y Llywydd blaenorol fydd yn cadeirio’r trafodion ar gyfer ethol olynydd iddo, neu’r Clerc, os yw’r Llywydd blaenorol yn bwriadu sefyll.

Mae’r weithdrefn ar gyfer ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd yr un peth. Os oes mwy nag un enwebiad ar gyfer unrhyw un o’r swyddi, cynhelir pleidlais gudd.

Yna, bydd y Cynulliad benderfynu enwebu Prif Weinidog newydd Llywodraeth Cymru.

Os caiff Aelod ei enwebu yn Brif Weinidog, bydd y Llywydd newydd yn argymell yn syth wrth Ei Mawrhydi’r Frenhines bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei benodi yn Brif Weinidog Cymru.

Y Llywydd newydd etholedig fydd yn penderfynu ar ddyddiadau’r Cyfarfod Llawn yn y dyfodol nes bydd Pwyllgor Busnes yn cael ei sefydlu. Mae hyn yn ofynnol yn ôl Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol, sef y rheolau sy’n nodi sut caiff Busnes y Cynulliad ei gynnal.

Yr eitem gyntaf o fusnes ar gyfer y Cynulliad newydd fydd talu teyrnged i’r cyn-Aelod Brynle Williams a fu farw fis diwethaf yn 62 oed.

Bu Brynle’n cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru yn y Cynulliad ers 2003.

Ceir gwybodaeth fanwl ynghylch ethol Llywydd, a manylion am swyddogaethau’r rôl, yn Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru.