Cyfle i ddweud eich dweud ar reolau caffael yr UE ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru

Cyhoeddwyd 27/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyfle i ddweud eich dweud ar reolau caffael yr UE ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru

27 Medi 2011

Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn i bobl ddweud eu dweud am y gweithdrefnau a ddilynir gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus wrth iddynt ddyfarnu contractau ar gyfer nwyddau, gwasanaethau neu waith arbennig.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wrthi’n paratoi ei gynigion ar gyfer diwygio deddfwriaeth caffael cyhoeddus, ac mae gan grwp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Menter a Busnes ddiddordeb mewn clywed sut y byddai’r newidiadau arfaethedig yn effeithio ar Gymru.

Mae’r cwestiynau a ganlyn o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor:

  • Pa mor effeithiol yw Rheoliadau cyfredol y Deyrnas Unedig yng Nghymru, o safbwynt y cyflenwyr/contractwyr ac o safbwynt yr awdurdod pwrcasu?

  • I ba raddau mae gwerth am arian yn cael ei sicrhau ar gyfer yr awdurdodau pwrcasu?

  • Sut ddylai Cyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â chaffael gael eu moderneiddio o safbwynt cyflenwyr/contractwyr ac o safbwynt awdurdodau pwrcasu Cymreig?

Dywedodd Julie James AC, Cadeirydd y grwp gorchwyl a gorffen: “Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £4.3 biliwn, neu tua thraean o’i gyllideb, ar nwyddau a gwasanaethau allanol, felly mae unrhyw adolygiad o bolisi yn y maes hwn yn bwysig iawn i Gymru.”

“Rydym yn annog cymaint â phosibl o unigolion a grwpiau sydd â diddordeb yn y maes i gyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad pwysig hwn er mwyn i ni helpu i adlewyrchu anghenion Cymru yn y trafodaethau ynghylch diwygio deddfwriaeth caffael cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd.”

Unwaith fydd y Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi ei gynigion ar gyfer diwygio deddfwriaeth caffael cyhoeddus (disgwylir i hyn ddigwydd erbyn diwedd 2011), bydd y grwp gorchwyl a gorffen yn ymchwilio i sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru, a sut y gallent fynd i’r afael â materion fel y rhai a ganlyn:

  • Cynnwys rhagor o fusnesau bach a chanolig eu maint, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, mewn caffael cyhoeddus;

  • y defnydd a wneir o gaffael cyhoeddus i hybu amcanion polisi eraill, fel polisïau cymdeithasol ac amgylcheddol; a

  • chymhlethdod a hyblygrwydd o fewn y system gaffael cyhoeddus.

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae rheolau polisi caffael yr Undeb Ewropeaidd yn berthnasol pan mae awdurdodau a gwasanaethau cyhoeddus yn ceisio sicrhau cyflenwadau neu wasanaethau penodol. Mae’r rheolau’n esbonio’r gweithdrefnau sy’n rhaid eu dilyn cyn dyfarnu contract sydd â gwerth sy’n uwch na therfyn penodol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael yma.

Bydd yr aelodau a ganlyn o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn ffurfio’r grwp gorchwyl a gorffen: Julie James (Cadeirydd)AC, Byron Davies AC, Eluned Parrott AC, David Rees AC a Leanne Wood AC.

Dylai sylwadau gael eu hanfon at Glerc y Pwyllgor erbyn 1 Tachwedd:

Siân Phipps, Clerc y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd CF99 1NA
sian.phipps@cymru.gov.uk