Cyflwyno deiseb: Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffyrdd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth

Cyhoeddwyd 12/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2016

Cyflwynwyd deiseb yn galw am welliannau diogelwch ar hyd yr A487 rhwng Aberteifi ac Aberystwyth i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol yn y Senedd.

Mae'r ddeiseb yn datgan:

"Yn dilyn digwyddiadau niferus ar hyd cefnffordd yr A487 yn enwedig rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, cyflwynaf ddeiseb i Gynulliad Cymru i wneud gwelliannau ar hyd y ffordd arfordirol hon, yn cynnwys mannau pasio mewn amrywiol leoliadau, er mwyn lliniaru traffig yn cronni y tu ôl i gerbydau araf.

"Rwyf o'r farn y byddai cael mannau pasio wedi'u lleoli mewn lleoedd strategol yn lleihau rhwystredigaeth gyrwyr a chymryd risgiau wrth geisio goddiweddyd cerbydau eraill.

"Pan fydd hyn y gefnffordd hon rhwng Abergwaun a Chaergybi wedi'i chau o ganlyniad i ddigwyddiad, mae'r dargyfeiriad ar hyd isffyrdd a all fod yn hunllefus, yn enwedig pan fydd Cerbydau Nwyddau Trwm, bysiau a choetsis yn cwrdd â'i gilydd wrth ddod o gyfeiriadau gwahanol."

Cyflwynwyd y ddeiseb i aelodau'r Pwyllgor Deisebau.