Cyflwyno deiseb yn galw am ailsefydlu grwpiau diabetes lleol ym Mhowys

Cyhoeddwyd 16/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei gyflwyno â deiseb yn galw ar Fwrdd Iechyd Lleol Powys i ailsefydlu'r Grŵp Cynllunio a Darparu ar gyfer Diabetes a'r Grwpiau Atgyfeirio Cleifion Diabetes ar unwaith.      

Cyflwynwyd y ddeiseb yn ffurfiol i'r Pwyllgor ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd am 12.30 ddydd Mawrth 14 Hydref. 

Yr ydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'w gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol Powys ailsefydlu ar unwaith Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes, a'r Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig.

Mae diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes ym mis Ebrill 2011 a chanslo cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig statudol ym mis Mehefin 2013 yn amddifadu cleifion rhag cyfrannu, fel y diffinnir yn y 'Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru' a'r 'Canllawiau ar Gynnwys Defnyddwyr a Gofalwyr sy'n defnyddio Gwasanaethau Oedolion y GIG '. Mae diddymu'r Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig yn uniongyrchol groes i'r cyfarwyddiadau a nodir mewn gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i Gadeirydd pob Bwrdd Iechyd Lleol ac oddi wrth Brif Weithredwr GIG Cymru at Brif Weithredwyr y Byrddau Iechyd Lleol ym mis Mehefin 2010.

Mae'r ohebiaeth yn datgan: -

......"Each DPDG should take responsibility for leading, managing and reporting to the LHB Board and to the Chief Executive of NHS on progress with the delivery of the NSF." ......and............."The DPDG will need to ensure effective engagement with service users and is an integral part of the LHB structures underpinning the implementation of the CCM (Chronic Conditions Management) policy agenda." (Mae cynrychiolwyr cleifion ar bob un o'r Grwpiau Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig.)

Petition presentation : Regarding the closure of Diabetes Patient Reference Groups and the cancellation of meetings of the Diabetic Planning and Delivery Group in Powys / Cyflwyno Deiseb : Diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes a chanslo cyfarfodyd