Cyflwyno deiseb ynghylch gwasanaethau atal anhwylder bwyta ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru yn y Senedd
11 Gorffennaf 2012
Cyflwynir deiseb ynghylch ariannu gwasanaethau atal anhwylder bwyta ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru yn swyddogol i Bwyllgor Deisebau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd Aelodau’r Pwyllgor yn cael y ddeiseb gan Helen Missen ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd am 13.15 ddydd Mercher, 11 Gorffennaf.
Mae union eiriad y ddeiseb fel a ganlyn:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ariannu’r Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru i’r un graddau â’r Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Oedolion yng Nghymru.