Cyfraith o’r meinciau cefn i helpu i ddiogelu dyfodol caeau chwarae yng Nghymru

Cyhoeddwyd 06/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cyfraith o’r meinciau cefn i helpu i ddiogelu dyfodol caeau chwarae yng Nghymru

6 Hydref 2010

Heddiw (6 Hydref), cefnogodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfraith newydd a fydd yn golygu bydd rhaid i gynghorau lleol i ymgynghori’n ehangach pan fyddant yn bygwth cau caeau chwarae.

Cafodd Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei gynnig gan Dai Lloyd, Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru

Roedd yn gallu cynnig y Mesur ar ôl cael ei ddethol drwy system balot sy’n rhoi’r cyfle i Aelodau meinciau cefn y Cynulliad gynnig cyfreithiau newydd.

Dywedodd Dr Lloyd, “Mae caeau chwarae yn rhywbeth a gaiff eu defnyddio’n rheolaidd gan gymunedau ledled Cymru.

“Mae mwy a mwy o’r cyfleusterau hyn yn cael eu colli i ddatblygiadau ac, yn achlysurol, ni chaiff y cymunedau lleol gyfle i ddweud eu dweud.

“Dyna’r rheswm dros gyflwyno’r Mesur arfaethedig hwn ac rwyf yn ddiolchgar i’m cyd-aelodau yn y Siambr am gefnogi’r cynnig yn y Siambr heddiw.”

Nawr, caiff y Mesur ei roi gerbron y Cyfrin Gyngor i’w gymeradwyo ym mis Rhagfyr.