Amgueddfa Cymru: gwendid yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli cyrff cyhoeddus

Cyhoeddwyd 26/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/06/2024   |   Amser darllen munudau

Mae problemau ar frig un o sefydliadau cenedlaethol mwyaf blaenllaw Cymru wedi datgelu gwendid sylweddol yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn cael eu llywodraethu.

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd yn hynod bryderus am y trefniadau llywodraethu yn Amgueddfa Cymru a fethodd â datrys anghydfod rhwng dau uwch-swyddog - y cyn-Lywydd a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol - am gost o £40,500 i Lywodraeth Cymru.

Mae hyn wedi costio cyfanswm o dros £750,000 i’r cyhoedd mewn taliadau i unigolion ac mewn costau cyfreithiol am nifer o dribiwnlysoedd.

Ymchwiliodd y Pwyllgor i’r problemau fel rhan o’i waith craffu ar gyfrifon Amgueddfa Cymru ar gyfer 2021/22 a gyhoeddir heddiw, dydd Mercher 26 Mehefin. Ar yr un diwrnod, bydd deiseb sy’n galw am fwy o gyllid ar gyfer sefydliadau treftadaeth a hanes, gan gynnwys Amgueddfa Cymru, ac a gafodd dros 12,000 o lofnodion, yn cael ei thrafod yn y Senedd.  

Methu o ran llywodraethu

Wrth i’r Pwyllgor graffu ar gyfrifon Amgueddfa Cymru ar gyfer 2021/22, clywodd dystiolaeth ynghylch methiannau o fewn prosesau mewnol y sefydliad. Mae’n codi cwestiynau am ran Llywodraeth Cymru yn y saga a sut mae’n ymyrryd pan fydd materion o’r fath yn codi mewn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus.

Mark Isherwood AS yn y Siambr

Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd:

“Mae’r Pwyllgor yn poeni’n fawr iawn am y prosesau a gafodd eu defnyddio yn ystod yr anghydfod rhwng y cyn-Lywydd a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, yn enwedig y rhyngweithio rhwng Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n amlwg bod angen mesurau pellach i atal unrhyw faterion o’r fath rhag digwydd eto mewn unrhyw gorff cyhoeddus.

“Roedd y prosesau a oedd ar waith ar y pryd yn gwbl annigonol a dylai’r mater fod wedi cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl, gan osgoi costau sylweddol diangen. Mae’r methiant hwn yn fwy amlwg byth heddiw, o ystyried y problemau ariannol difrifol sy’n wynebu Amgueddfa Cymru.”

Rôl newydd y Llywydd

Mae’r Pwyllgor yn herio penderfyniad Llywodraeth Cymru, yn sgil yr anghydfod, i benodi’r cyn-Lywydd, Roger Lewis, i rôl newydd yn arwain adolygiad llywodraethu yn Cadw. Er ei fod yn cydnabod nad oedd y cyn-Lywydd wedi torri telerau ei benodiad, mae’r Pwyllgor yn pryderu am dryloywder y broses.

Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r Pwyllgor yn herio rhesymeg y penodiad hwn, o fewn yr un sector diwylliant a threftadaeth, o ystyried y problemau yn Amgueddfa Cymru. Mae angen system benodi fwy cadarn gan Lywodraeth Cymru, gyda mwy o dryloywder ac atebolrwydd ynghylch penodiadau fel y rhain yn y dyfodol.”

Heriau yn y dyfodol

Mae Cadeirydd newydd a Phrif Weithredwr newydd wedi bod yn eu swyddi yn Amgueddfa Cymru ers mis Medi a mis Tachwedd 2023. Cydnabyddir bod Amgueddfa Cymru bellach yn canolbwyntio’n llawn ar yr heriau sylweddol y mae’n eu hwynebu yn y dyfodol, sy’n destun pryder mawr i’r Pwyllgor.

Dywedodd Mark Isherwood AS: “Mae’n destun pryder clywed am yr heriau sy’n wynebu Amgueddfa Cymru o ran ymdrin â phwysau cyllidebol, sy’n debygol o arwain at golli llawer o swyddi yn y sefydliad, yn ogystal â risg i’n casgliadau cenedlaethol a’n safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol.

“Wrth graffu yn y dyfodol, bydd y Pwyllgor eisiau gwybod sut mae Amgueddfa Cymru yn ymateb i’r pwysau hyn, a sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddiogelu’r safleoedd a’r casgliadau hanfodol bwysig hyn.”

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wedi cyhoeddi ei waith craffu ar gyfrifon Amgueddfa Cymru ar gyfer 2021/22 ac mae’r adroddiad ar gael ar-lein.

Cynhelir dadl y Pwyllgor Deisebau ynghylch dyfodol ariannu sefydliadau treftadaeth fel Amgueddfa Cymru yn y Cyfarfod Llawn brynhawn Mercher, 26 Mehefin, a bydd ar gael i’w gwylio’n fyw ar senedd.tv 

 

Mwy am y stori hon 

Darllenwch am yr adroddiad Craffu ar gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22

Ymchwiliad: Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22