Cyhoeddi adroddiad ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed

Cyhoeddwyd 25/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cyhoeddi adroddiad ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed

Mae’r Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed yn cytuno y dylid rhoi pwerau deddfu newydd i’r Cynulliad mewn perthynas â phlant sy’n agored i niwed a thlodi ymhlith plant.  

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 3) 2007 arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn yr adroddiad, mae’r Pwyllgor yn cytuno, o ran egwyddor, y dylid diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006  i roi pwerau newydd i’r Cynulliad i wneud deddfwriaeth o dan Faes 15, sy’n ymwneud â lles cymdeithasol.

Ceir nifer o argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddiwygio’r Gorchymyn arfaethedig i gyfeirio’n benodol at dlodi ymhlith plant, o gofio mai dyma thema ganolog y Gorchymyn arfaethedig. Mae’n argymell hefyd fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn egluro’i safbwynt o ran y Gorchymyn arfaethedig i alluogi’r Cynulliad i gyflwyno gwaharddiad ar gosbi plant yn gorfforol, ac yn argymell bod y Gweinidog yn ceisio’r pwerau hyn drwy ddeddfwriaeth sylfaenol os nad oes modd cyflawni hyn drwy’r Gorchymyn arfaethedig. Yn ogystal â hyn, mae’r adroddiad yn argymell y dylai’r Gorchymyn arfaethedig gyfeirio’n benodol at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, i alluogi’r Cynulliad i ymgorffori’r gofynion byd-eang hyn mewn unrhyw ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r cymhwysedd deddfwriaethol newydd.

Dywedodd Karen Sinclair AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Mae diogelu plant sy’n agored i niwed a phlant tlawd yn faes pwysig y gall y Cynulliad, o dan y Gorchymyn arfaethedig, gael cymhwysedd deddfwriaethol ynddo. Rydym wedi craffu ar y Gorchymyn yn ofalus iawn ac rydym yn gobeithio y bydd unrhyw ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r agwedd hon ar gymhwysedd yn cael effaith uniongyrchol er lles plant difreintiedig a phlant sy’n agored i niwed yng Nghymru.

“Fel rhan o’n gwaith craffu, rydym wedi ymgynghori ag amrywiaeth o gyrff allweddol sy’n ymwneud â’r maes, er mwyn cael gwybodaeth i’n helpu gyda’r ymchwiliad ac rydym wedi ystyried tystiolaeth ysgrifenedig a llafar gan gyfranwyr.

“Er ein bod o blaid Gorchymyn arfaethedig y Llywodraeth o ran egwyddor, rydym wedi awgrymu rhai agweddau penodol ar y Gorchymyn y gellid eu cryfhau. Gobeithio y bydd ein hargymhellion yn galluogi’r Cynulliad i greu deddfwriaeth a fydd yn diwallu anghenion plant Cymru, ac rydym yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried yr argymhellion cyn cwblhau’r Gorchymyn drafft.”

Rhagor o wybodaeth am y Mesur arfaethedig a’r broses ddeddfu