Cyhoeddi adroddiad blynyddol cyntaf Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 21/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf erioed.

Caiff yr adroddiad, sy'n ymdrin â gwaith y Pwyllgor dros y flwyddyn ddiwethaf, ei drafod yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor, "Eleni, mae’r Pwyllgor wedi ceisio gwella ei arferion gwaith ei hun ac wedi rhoi cynnig ar ddulliau gweithredu newydd.

"Cytunodd y Pwyllgor i baratoi adroddiad blynyddol i’w drafod gerbron y Cynulliad cyfan fel rhan o’i ffyrdd newydd o weithio ar ddechrau’r flwyddyn.

"Mae’r Pwyllgor yn awyddus i gael cymaint o effaith â phosibl o ran sicrhau bod sefydliadau a swyddogion a ariennir gan drethdalwyr yn bodloni disgwyliadau’r cyhoedd o ran gwerth am arian, llywodraethu da ac effeithlonrwydd.

"Byddwn yn parhau i weithio tuag at y nod hwn yn ystod y flwyddyn gyfredol ac wrth i ni symud i dymor nesaf y Cynulliad."

Cynhaliodd y Pwyllgor naw ymchwiliad mawr rhwng 1 Ebrill 2013 a 31 Mawrth 2014. Trafododd y Pwyllgor amrywiaeth o faterion o Reoli Grantiau i Gyllid Iechyd. Ystyriwyd trefniadau llywodraethu nifer o sefydliadau hefyd.

Yn ystod y cyfnod hwn, adolygodd y Pwyllgor ei ddulliau gweithredu hefyd a chytunwyd ar nifer o gynigion i newid ei ffyrdd o weithio. Un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol fu’r ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor.

Ymchwiliadau yw'r rhain yn sgil pryderon Aelodau’r Pwyllgor ynglyn ag agweddau ar bolisïau allweddol y Llywodraeth sy’n ymwneud â gwerth am arian. Yn 2013-14, cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar ddau ymchwiliad a arweiniwyd ganddo: cyflog uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus a’r Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cytuno i ymgymryd â darn o waith er mwyn ystyried cyfrifon cyfun Llywodraeth Cymru a rhai cyrff annibynnol a ariennir drwy grant bloc Cymru, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hyn a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 2013-14 (PDF, 365KB)