Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn 2016-17.
Y Cynulliad Cenedlaethol oedd y corff seneddol cyntaf yn y DU i sefydlu corff annibynnol i bennu cyflogau a lwfansau ei Aelodau.
Sefydlwyd y Bwrdd gan Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 ac mae'n gyfrifol am bennu cyflogau a chymorth ariannol i Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn eu galluogi i gyflawni eu rolau'n effeithiol.
Mae'r adroddiad blynyddol yn amlinellu'r gwaith y mae'r Bwrdd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac yn cynnwys adolygiad o'r penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd yn ystod yr un cyfnod. Mae'r penderfyniadau hyn yn cynnwys:
Cynnydd o 2.1 y cant yng nghyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2017-18, yn unol â'r ffigurau ar gyfer Cymru yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2016;
Cynnydd o 2.1 y cant yng nghyfanswm y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol, yn unol â'r cynnydd mewn cyflogau Staff Cymorth;
Creu cronfa wedi'i neilltuo ar gyfer gwelliannau diogelwch angenrheidiol a rhesymol ar gyfer Aelodau yn eu swyddfeydd etholaeth, eu llety preswyl a'u cartrefi.
Dywedodd y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol:
"Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r penderfyniadau yr ydym ni, fel Bwrdd, wedi'u gwneud i sicrhau bod gan Aelodau'r Cynulliad y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu dyletswyddau Seneddol, gan gadw at egwyddor sicrhau gwerth da am arian i'r pwrs cyhoeddus.
"Byddwn yn parhau i adolygu'r Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad wrth i ni sicrhau bod gan Aelodau'r Cynulliad y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i wynebu'r heriau sy'n codi mewn Cynulliad sy'n esblygu."