Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth ffotograffau cyflwr y ffyrdd

Cyhoeddwyd 23/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/07/2018

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi enillydd Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Cyflwr y Ffyrdd.

Tynnwyd y ddelwedd fuddugol gan Antony Maybury o Wrecsam; mae'n dangos lori wrth iddi fynd heibio i dwll mawr yn yr A525 ger Bronington.

Dywedodd Antony:

"Cymerais ran yn y gystadleuaeth am fod y ffyrdd o gwmpas Wrecsam yn wael iawn. Bob tro rwy'n teithio yno, mae fel fy mod i'n gyrru'r crwydrwr ar y blaned Mawrth!

"Mae'r ffyrdd mewn cyflwr truenus ac mae angen gwneud rhywbeth. Mae'n teimlo fel nad yw fy nghyngor yn poeni dim; felly, trwy ennill, rwy'n gobeithio y bydd Cyngor Wrecsam yn cymryd camau a gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel."

Lansiwyd y gystadleuaeth i godi ymwybyddiaeth o ymchwiliad y Pwyllgor i gyflwr ffyrdd Cymru. Cyhoeddir ei ganfyddiadau yn yr hydref.

Bydd y ffotograff buddugol yn ymddangos ar glawr adroddiad y Pwyllgor a bydd yn rhan o arddangosfa, gyda delweddau eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer, yn y Senedd o 3 i 14 Medi.

"Hoffwn ddiolch i bawb a gyflwynodd ffotograffau i'n cystadleuaeth," meddai Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

"Feddyliais byth y byddai edrych ar gynifer o luniau o dyllau mor ddiddorol!

"Roedd y safon yn dda iawn, gyda rhai delweddau rhyfeddol o dda, ac nid lluniau o darmac diflas yn unig a gafwyd, ond lluniau hefyd o ffyrdd B syfrdanol mewn mannau hardd yng Nghymru.

"Dewiswyd y ddelwedd fuddugol gennym am fod maint olwynion y lori yn dangos faint o broblem yw'r tyllau hyn, nid yn unig ar y ffordd honno, ond ledled y wlad.

"Mae'r rhan hon o'n hymchwiliad wedi bod yn hwyl, ond mater difrifol yw cyflwr ein ffyrdd, gan ei fod yn gwneud teithio’n anghyfforddus, ac mae'r wlad hefyd ar ei cholled yn feunyddiol o ran arian ac amser.

"Yn ogystal â'r gystadleuaeth, mae'r Pwyllgor wedi cymryd tystiolaeth gan ystod eang o ddefnyddwyr ffyrdd, busnesau ac arbenigwyr ym maes peirianneg. Ein bwriad yw cyhoeddi ein canfyddiadau a'n hargymhellion ym mis Hydref."