Mae'r Llywydd wedi cyhoeddi mai'r dyddiad ar gyfer is-etholiad Alun a Glannau Dyfrdwy fydd dydd Mawrth 6 Chwefror 2018 ac mae wedi ysgrifennu at y Swyddog Canlyniadau yn gofyn iddo drefnu i'r bleidlais gael ei chynnal y diwrnod hwnnw.
Wrth benderfynu ar y dyddiad, mae'r Llywydd wedi ystyried sensitifrwydd yr amgylchiadau a arweiniodd at y sedd wag, y trefniadau ymarferol ar gyfer rheoli is-etholiad yn effeithiol ac effaith cyfnod y Nadolig ar y trefniadau.
6 Chwefror yw'r diwrnod olaf posibl yn statudol y gellir cynnal is-etholiad. Er bod etholiadau ac is-etholiadau, yn ôl confensiwn, wedi digwydd ar ddydd Iau, nid oes gorfodaeth statudol i wneud hynny.
O dan yr amgylchiadau hyn, mae'r Llywydd yn credu bod y penderfyniad hwn yn rhoi'r cyfle gorau i'r holl bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr baratoi ac mae hefyd yn galluogi'r awdurdod lleol i wneud y trefniadau angenrheidiol mewn modd amserol.