Senedd wedi ei oleuo'n borffor i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Senedd wedi ei oleuo'n borffor i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Lle i Ni: Diwrnod Menywod yn y Senedd

Cyhoeddwyd 08/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Am un diwrnod ym mis Hydref, fe fydd hi’n ddiwrnod menywod yn y Senedd gyda digwyddiad ysbrydoledig â’r nod o ennyn brwdfrydedd y genhedlaeth nesaf o ran menywod mewn gwleidyddiaeth.

Mae Lle i Ni: Diwrnod Menywod yn y Senedd yn ddigwyddiad o bwys a drefnwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac Elect Her.

Caiff y digwyddiad ei gynnal yn y Senedd ddydd Sadwrn 21 Hydref 2023, a’r nod yw dwyn menywod Cymru at ei gilydd i gysylltu, ysgogi a hyrwyddo eu rôl yn nemocratiaeth Cymru.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Llywydd y Senedd, Elin Jones AS yn falch o gyhoeddi cefnogaeth y Senedd i’r digwyddiad cyffrous hwn gyda’r diben o chwalu rhwystrau, fel bod amrywiaeth ehangach o fenywod yn gallu bod yn rhan o fywyd cyhoeddus a gwleidyddol.

Yn ôl Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, “Dyma gefnogi nod Lle i Ni i’r eithaf, er mwyn grymuso ac ysbrydoli amrywiaeth ehangach o fenywod i roi cynnig ar fyd gwleidyddiaeth. Mae gan y Senedd hanes cryf o gynrychiolaeth gan fenywod, ond rhaid inni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i annog y genhedlaeth nesaf. Bydd y digwyddiad neilltuol yma’r hydref hwn yn cynnig cyfleoedd i fenywod ddod o hyd i’w llais a mynnu eu lle wrth galon gwleidyddiaeth Cymru.”

Mae gwybodaeth am y digwyddiad a sut y gall merched gymryd rhan ar gael yma. Ar yr amserlen ar gyfer y diwrnod bydd sesiynau, gweithdai a chyfarfodydd gydag Aelodau benywaidd o’r Senedd.

Cynhelir y digwyddiad hwn mewn undod ag ymgyrch Diverse5050 Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru dros gynrychiolaeth gyfartal ac amrywiol i fenywod yng Nghymru – yn enwedig menywod o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod LGBTQ+, menywod anabl, a menywod â nodweddion gwarchodedig eraill.

Yn ôl Evelyn James, Rheolwr Ymgyrch o Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, “ni cheir cynrychiolaeth go iawn os na chlywir ein lleisiau wrth wneud penderfyniadau. Dyma alw ar bob menyw i ddod i’r digwyddiad hwn – ry’ch chi’n hanfodol i ddyfodol Cymru. Mae'n agored i bob un ohonoch chi. Mae hwn yn le i ni i gyd.”

Meddai Hannah Stevens, Prif Weithredwr Elect Her, “Ry’n ni uwchben ein digon i fod yn gweithio gyda Senedd Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru i gynhyrchu Lle i Ni. Mae gwahodd menywod Cymru yn ein holl amrywiaeth hyfryd i’r fan lle mae pŵer yn rhan bwysig o ddangos y gwerth enfawr rydym yn ei gynnig i’n democratiaeth. Cymru oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i gael niferoedd cyfartal o ddynion a menywod ac rydym yn benderfynol o gefnogi'r genhedlaeth nesaf o fenywod i adennill y cydbwysedd hwnnw yn y Senedd, ac ym mhob maes Llywodraeth yng Nghymru.”

Yn ôl Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, “Rwy’n falch o fod yn Weinidog mewn Cabinet lle mae mwy na hanner y rolau’n cael eu llenwi gan fenywod fel rhan o lywodraeth ffeministaidd.

“Wrth gwrs, dyw’r sefyllfa honno ddim i’w gweld o hyd ledled Cymru ac mae llawer mwy o waith i’w wneud. Mae ein cynllun, Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru yn nodi ein huchelgais i gyflawni’r union gydraddoldeb hwnnw ac mae'n cynnwys ymrwymiadau sy'n ymwneud â gwella cynrychiolaeth mewn rolau arweiniol.

“Mae’r cyfryw ddigwyddiadau yn enghraifft berffaith o’r modd y gall menywod o bob cefndir gwahanol gydweithio i gyflawni’r newid sydd angen i ni ei weld.”

Rhagor o wybodaeth a chofrestrwch eich diddordeb yn y digwyddiad