Cyhoeddi Ymchwiliad Pwyllgor: Galw am Dystiolaeth am Ganiatâd Tybiedig i Roi Organau

Cyhoeddwyd 13/02/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Galw Am Dystiolaeth

Cyhoeddi Ymchwiliad  Pwyllgor: Caniatâd Tybiedig I Roi Organau

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad ynghylch cyflwyno system caniatâd tybiedig i roi organau yng Nghymru ac mae’n galw ar y rheini sydd â diddordeb yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Mae’r syniad o gyflwyno system caniatâd tybiedig fel ffordd o gael organau i’w trawsblannu’n cael ei drafod fwyfwy’n gyhoeddus .  Ar hyn o bryd does dim digon o bobl yn rhoi organau ac mae hynny’n golygu bod unigolion sy’n aros am drawsblaniad, a’u teuluoedd, yn dioddef yn sylweddol. Mae pryder hefyd y bydd tueddiadau cymdeithasol ac iechyd yn y dyfodol yn arwain at fwy o alw am drawsblaniadau.      

Ar y llaw arall, mae safbwynt y rheini sydd â phryderon moesol, moesegol neu grefyddol ynglyn â’r mater neu’r rheini sy’n teimlo mai mater i unigolion a’u teuluoedd yw’r penderfyniad i roi organau ac na ddylai’r wladwriaeth ymyrryd yn y maes sensitif hwn.

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal ei ymchwiliad ei hun gan edrych ar agweddau fel fframwaith cyfreithiol posibl ar gyfer system o ganiatâd tybiedig, barn y cyhoedd a’r rhai sydd a wnelont â’r mater, a sut y byddai unrhyw system yng Nghymru yn gweithio ochr yn ochr â’r system yng ngweddill y DU.

Er nad oes gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol yn y maes hwn ar hyn o bryd, ymddengys nad oes unrhyw reswm sylfaenol pam na ddylai geisio’r pwerau y byddai eu hangen arno drwy gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Cylch gorchwyl

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad.

Archwilio’r trefniadau ar gyfer rhoi organau yng Nghymru a gwneud argymhellion ynglyn â chyflwyno system o ganiatâd tybiedig yng Nghymru gan gyfeirio at:

  • Safbwyntiau moesol, moesegol, crefyddol a chymdeithasol ar ganiatâd tybiedig

  • Fframwaith cyfreithiol posibl ar gyfer system o’r fath

  • Enghreifftiau gwael ac enghreiffitau da o systemau caniatâd tybiedig

  • Y seilwaith, yr adnoddau a’r sefydliadau presennol

  • ¡Yr adnoddau ychwanegol a’r seilwaith y byddai eu hangen

  • Y ffordd y byddai trefniadau trawsblannu Cymru yn gweithio ochr yn ochr â’r trefniadau yng ngweddill y DU

  • Barn y cyhoedd, gan gynnwys grwpiau lleiafrifol.

  • Ffyrdd eraill o sicrhau bod mwy o organau ar gael heb gyflwyno system caniatâd tybiedig

Gofynnir i bobl sydd â diddordeb gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod, erbyn dydd Gwener 14 Mawrth 2008 fan bellaf. Os oes modd, a fyddech cystal ag anfon fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Rich Text, naill drwy e-bost i: health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg. Mae canllawiau ychwanegol ar gyflwyno tystiolaeth ynghlwm.

Gall y Pwyllgor alw ar y rheini sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gyflwyno tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor. Yn eich ymateb, a fyddech cystal â nodi a fyddech chi’n barod i roi tystiolaeth yn bersonol.

Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff tystiolaeth ysgrifenedig ei drin fel eiddo’r Pwyllgor cyn gynted ag y caiff ei gyflwyno iddo. Bwriad y Pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac mae’n bosibl y cânt eu cynnwys gyda’r adroddiad maes o law.  

Mae’n arferol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi tystiolaeth a gyflwynir i Bwyllgor. Gan hynny, gall eich ymateb ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth atodol i adroddiad. Ni fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth os yw’n ystyried ei bod yn wybodaeth bersonol.  

Os daw cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth y DU, mae’n bosibl y bydd yn rhaid datgelu’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth na chafodd ei chynnwys gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’w chyhoeddi cyn hynny.

Os ydych chi’n rhoi unrhyw wybodaeth, ar wahân i ddata personol, nad yw’n addas i’w gyhoeddi yn eich barn chi, rydych chi’n teimlo nad yw’n addas i’w datgelu’n gyhoeddus, rhaid i chi nodi’r rhannau hynny na ddylid eu cyhoeddi gan roi rhesymau da dros hynny. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried hyn pan fydd yn cyhoeddi gwybodaeth neu’n ymateb i gais am wybodaeth.

13 Chwefror 2008

Aelodau’r Pwyllgor:

Jonathan Morgan AC (Cadeirydd), Lorraine Barrett AC, Irene James AC, Ann Jones AC, Helen Mary Jones ACM, Dai Lloyd AC, Val Lloyd AC, Nick Ramsey AC, Jenny Randerson AC