Cyhoeddi Ymchwiliad Pwyllgor: Gwaith trosolwg a chraffu Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd 17/10/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Galw am dystiolaeth

Cyhoeddi Ymchwiliad Pwyllgor: Gwaith trosolwg a chraffu Llywodraeth Leol

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i’r cynnydd sydd wedi ei wneud ym maes trosolwg a chraffu llywodraeth leol yng Nghymru, ac mae’n galw ar rai sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Yn 2004 cyhoeddodd y cyn Bwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yr adroddiad 'Gweithredu Strwythurau Rheoli Gwleidyddol Newydd o fewn Llywodraeth Leol' a oedd yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Leol ynghylch cryfhau rôl graffu cynghorwyr anweithredol.

Bydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn adolygu’r cynnydd a wnaed wrth weithredu argymhellion adroddiad 2004, a bydd yn asesu pa ddatblygiadau pellach sydd eu hangen er mwyn gwella ansawdd gwaith trosolwg a chraffu o fewn llywodraeth leol.

Gellir gweld argymhellion adroddiad 2004 drwy ddilyn y linc isod: http://www.assemblywales.org/N0000000000000000000000000021314.pdf

Cylch gorchwyl

Mae’r pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad:

  • Adolygu i ba raddau y cafodd argymhellion y cyn Bwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â gwaith trosolwg a chraffu eu gweithredu gan Lywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

  • Asesu i ba raddau y mae swyddogaeth trosolwg a chraffu awdurdodau lleol Cymru wedi datblygu ers 2004;

Yng ngoleuni argymhellion a wnaed gan Syr Jeremy Beecham, asesu i ba raddau y mae’r broses graffu o fewn awdurdodau lleol Cymru yn gynhwysol, yn gydweithrediadol ac yn ymwneud â’r dinesydd.

  • Gwneud argymhellion ynghylch datblygiad rôl trosolwg a chraffu Llywodraeth Leol yn y dyfodol.

Dyma rai o’r materion craidd y bydd y pwyllgor yn dymuno eu hystyried:

  • Sut y gwnaeth Llywodraeth y Cynulliad, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r awdurdodau lleol ymateb i’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn 2004?

  • Ym mha ffyrdd y mae’r swyddogaeth trosolwg a chraffu o fewn llywodraeth leol wedi newid a datblygu yng Nghymru ers 2004?

  • Pa awdurdodau lleol sy’n dangos arfer gorau wrth ymgymryd â’u swyddogaeth  trosolwg a chraffu?

  • A yw awdurdodau lleol yn rhannu arfer gorau’n llwyddiannus? Os ydynt, sut?

  • Sut mae awdurdodau lleol yn datblygu proses graffu gynhwysol, fel y nodwyd gan Syr Jeremy Beecham?

  • Pa gynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol wrth ddatblygu trefniadau craffu cydweithrediadol?

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod erbyn dydd Gwener 28 Tachwedd 2008. Os yn bosibl, a wnewch chi gyflwyno fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Rich Text, un ai ar neges e-bost i health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg? Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth wedi’i hamgáu. Byddwn yn ddiolchgar petaech yn rhannu’r cais hwn am dystiolaeth ag eraill sydd â diddordeb neu, os yw hynny’n briodol, gydag unrhyw un o’ch aelod sefydliadau.

Gall y pwyllgor alw ar y rheini sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ategu’r dystiolaeth honno drwy gyflwyno tystiolaeth lafar gerbron y pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a ydych yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar.

Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r pwyllgor ei thrin fel eiddo’r pwyllgor. Bwriad y pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac efallai y cânt eu hargraffu gyda’r adroddiad.  

Mae'n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os ydych yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Aelodau’r pwyllgor:

Jonathan Morgan AC (Cadeirydd), Lorraine Barrett AC, Irene James AC, Ann Jones AC, Helen Mary Jones AC, Dai Lloyd AC, Val Lloyd AC, Nick Ramsey AC, Jenny Randerson AC