Cymru ac Ewrop yn rhoi cefnogaeth ar y cyd i brosiect gardd

Cyhoeddwyd 28/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cymru ac Ewrop yn rhoi cefnogaeth ar y cyd i brosiect gardd

Bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ac Andy Klom, Cynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru a Phennaeth Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd, yn ymweld ag atyniad ymwelwyr diweddaraf y wlad sef Gardd Berlysiau’r Bont-faen ddydd Iau 29 Tachwedd (10.00 a.m.).

Cafodd y safle hanner erw ei ddatblygu o weddillion diffaith gardd lysiau hen ysgol ramadeg y Bont-faen yn Heol yr Eglwys yn y dref.  Cafodd y gwaith ei gwblhau mewn ychydig dros ddwy flynedd am gost o £310,000, a chyfrannwyd tuag at fwy na thraean o’r gost gan grant dan nawdd cyllid Erthygl 33 y Gymuned a gynlluniwyd i greu ac i adnewyddu prosiectau cymunedol ar draws y tir.                             

Eisoes bu nifer yr ymwelwyr â’r ardd yn llawer uwch na’r 15-20,000 y flwyddyn a ddisgwyliwyd; yn ystod ei saith mis cyntaf mae’r ardd wedi cael mwy na 33,000 o ymwelwyr drwy’r gatiau.      

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, “Mae’r fenter hon yn dangos yn berffaith yr hyn y gellir ei gyflawni drwy ein cysylltiad â’r Comisiwn Ewropeaidd.  Mae’n gynllun mentrus braf gyda llawer mwy i ddod fel y bydd ei enw da’n cynyddu.  

Mae pob rheswm i gredu y bydd yn hawlio’i le fel un o’r safleoedd ymwelwyr mwyaf atyniadol yn Ne Cymru mewn cyfnod byr iawn o amser.  

“Mae’n gwella enw da’r Bont-faen mewn ffordd sy’n hollol lesol i’r ardal ac mae’n lle y gallwn i gyd ymfalchïo ynddo.”

Dywedodd Andy Klom, "Mae hwn yn enghraifft dda o’r Undeb Ewropeaidd yn dod â chefnogaeth economaidd ac ariannol i’r lefel leol, er lles cymunedau lleol a thu hwnt.  Mae’n wych i weld prosiect creadigol fel hyn yn helpu’r broses wella o ran adfywio yng Nghymru, sydd hefyd yn dangos pwysigrwydd cymunedau"sy’n blodeuo” o fewn yr Undeb Ewropeaidd.  Er ei fod yn cael ei feirniadu’n aml, gofynnwch i’ch hunan: os yw Ewrop yn eich cefnogi chi, a yw’n beth mor ddrwg i gefnogi Ewrop?"

Cwblhawyd y prosiect ar amser ac o fewn y gyllideb, ac agorodd ei drysau fel gardd gaerog ym mis Mawrth eleni.  Caiff y deuddeg gwely blodau, sy’n amgylchynu ffynnon ganolig eu rhannu’n lloriau sy’n llawn planhigion meddyginiaethol o’r cyfnod Georgaidd, cyn 1800.

Datblygwyd gerddi perlysiau yn gyntaf yn y DU mewn mynachdai ac abatai er mwyn lluosogi planhigion ar gyfer gwella anhwylderau, gan osod y sylfeini ar gyfer gwyddoniaeth feddygol fodern. Mae’r ardd yn cynnwys dau dy-haul,  deildy, bwâu ogee, wrn y Pab, deial haul a nodweddion eraill i ddenu’r llygad. Mae’r mynediad yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Cadeirydd yr Ardd, Dan Clayton-Jones, “Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth y Cynulliad ac i’r Comisiwn Ewropeaidd am eu cefnogaeth a’u hanogaeth.  Mae pobl yn dweud wrthym mai dyma’r peth gorau a ddigwyddodd i’r Bont-faen ers cenedlaethau, honiad na allaf anghytuno ag ef.”