Cymru'n cofio Brwydr Passchendaele 100 mlynedd yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 31/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/07/2017

​Bydd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn arwain dirprwyaeth o arweinwyr y pleidiau mewn Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru yn ddiweddarach heddiw yn Langemark, Gwlad Belg, i goffáu 3,000 o filwyr o Gymru a gafodd eu lladd neu eu hanafu yn Nhrydedd Frwydr Ypres (Passchendaele), a ddechreuodd gan mlynedd yn ôl i heddiw. 

Trefnwyd y gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Cymru'n Cofio 1914-1918.  Cynhelir y gwasanaeth yng Nghofeb y Cymry yn Flanders (Ypres) yn Langemark.

Bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn agor y gwasanaeth ochr yn ochr ag Alain Wyffels, Maer Langemark-Poelkapelle, a Geert Bourgeois, Gweinidog-Lywydd Flanders.

Bydd Elin Jones AC yn ymuno ag Andrew RT Davies AC, Leanne Wood AC a Neil Hamilton AC, a fydd yn gosod torch ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r ymweliad dirprwyo yn rhan o goffâd y Cynulliad Cenedlaethol o ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau sy'n cyfrannu at raglen Cymru'n Cofio 1914-1918.  Un enghraifft yw'r Senedd yn arddangos y cerflun Weeping Window o 8 Awst. Bydd y gosodiad, sy'n cynnwys dros 10,000 pabi ceramig yn addurno blaen y Senedd - cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Elin Jones AC:

"Collodd cymaint o filwyr o Gymru eu bywydau ym Mrwydr Passchendaele a dawn at ein gilydd er cof am y milwyr hynny a gafodd eu lladd neu eu hanafu mo bell o gartref.  Mae'n bwysig bod y Cynulliad Cenedlaethol, y senedd sy'n cynrychioli pobl Cymru, yn nodi digwyddiad a gafodd effaith o'r fath ar gymunedau ar draws y wlad ac sy’n parhau i fod yn rhan o'n stori heddiw.

"Cofiwn yr aberth a'r golled a deimlwyd yn dilyn y frwydr erchyll hon."