Mae anghydraddoldeb o ran goroesi canser yn parhau ledled Cymru, gyda phobl mewn ardaloedd difreintiedig yn parhau i wynebu oedi yn eu triniaeth, yn ôl adroddiad pwyllgor yn y Senedd sydd hefyd yn rhybuddio bod gwelliannau yng Nghymru yn cymharu'n wael â gwledydd eraill.
Yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Wasanaethau Canser yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025, tynnwyd sylw at fwlch sy'n ehangu yn y cyfraddau goroesi pum mlynedd – 69% ar gyfer pobl sy'n byw yn y rhannau mwyaf cyfoethog, ond 51% yn y rhannau mwyaf difreintiedig.
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd yn dweud bod yr anghydraddoldebau hyn yn amlygu problemau parhaus o ran mynediad at ddiagnosis a thriniaeth amserol, amrywiadau mewn gwasanaethau rhwng byrddau iechyd, a rhwystrau i fanteisio ar sgrinio ymhlith grwpiau difreintiedig.
Mae sgrinio am ganser yn amlwg yn hanfodol ar gyfer gwella canlyniadau i gleifion, ac mae'r Pwyllgor yn galw am ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n cael eu sgrinio.
Methu’r targed cenedlaethol 62 diwrnod
Mae'r Pwyllgor hefyd yn codi pryderon difrifol ynglŷn â’r ffaith bod targed cenedlaethol 62 diwrnod Llywodraeth Cymru ar gyfer dechrau triniaeth yn cael ei fethu’n barhaus. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Tachwedd 2025 yn dangos mai 58% yn unig o driniaethau sy'n dechrau cyn y targed hwn, sy'n llawer is nag uchelgais y Llywodraeth o 75%. Mae'r ffigur wedi aros rhwng 52% a 64% ers 2020.
Yn achos rhai mathau o ganserau – gan gynnwys canserau gynaecolegol, wrolegol a gastroberfeddol isaf – mae llai na hanner y cleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod. Mae oedi rhwng diagnosis a thriniaeth hefyd wedi gwaethygu. Rhwng mis Chwefror 2021 a mis Tachwedd 2025, cynyddodd yr amseroedd aros canolrifol o ddiagnosis i driniaeth 48%, o 21 diwrnod i 31.
Arweinyddiaeth gliriach, diagnosis cyflymach a strategaeth canser hirdymor
Er bod gwelliannau wedi cael eu gwneud mewn rhai meysydd, mae'r Pwyllgor yn rhybuddio bod Cymru yn parhau i fod ar ei hôl hi o'i chymharu â gwledydd eraill y DU a gwledydd cymharol yn rhyngwladol.
Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus:
“Mae byw gyda diagnosis o ganser yn rhoi straen seicolegol, corfforol ac ymarferol aruthrol ar unigolion a’u teuluoedd. Mae cleifion canser a'u teuluoedd yn haeddu gwell na lefel y perfformiad rydym yn ei gweld yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y weledigaeth genedlaethol ar gyfer gofal canser, a rhaid iddi nawr ddangos arweinyddiaeth llawer cryfach er mwyn ei chyflawni.
“Mae amseroedd aros yn parhau i fod yn annerbyniol, mae anghydraddoldeb yn ehangu, ac mae diwygiadau hanfodol yn symud ymlaen yn llawer rhy araf. Rhaid i'r Llywodraeth afael ynddi ar frys – oherwydd, heb arweinyddiaeth genedlaethol bendant, bydd canlyniadau canser yng Nghymru yn parhau i fod yn is na'r hyn y mae cleifion yn ei haeddu ac yn iawn i’w ddisgwyl.”
Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod trefniadau arweinyddiaeth genedlaethol yn rhy dameidiog o hyd a bod diffyg strategaeth canser hirdymor glir yng Nghymru. Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i:
- egluro pwy sy'n gyfrifol am arwain gwelliant mewn gwasanaethau canser yn genedlaethol a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif.
- nodi dyfodol y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser ac ym mha ffordd y bydd gofyn i fyrddau iechyd ei gyflawni.
- cryfhau atal canser drwy sicrhau dull cenedlaethol cliriach a chydgysylltiedig.
- datrys bylchau data a digidol drwy wella ansawdd data, cyhoeddi data perfformiad mwy cyflawn, a galluogi integreiddio digidol gwell.
- mynd i’r afael â heriau o ran y gweithlu a blaenoriaethu cyflymu atebion digidol, gan gynnwys defnyddio deallusrwydd artiffisial.