Mae Cadeirydd yPwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths AC, wedi gwneud y datganiad canlynol mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch Cymunedau yn Gyntaf:
“Mae cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben yn dod ag un o brif gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi yng Nghymru i ben.
“Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar 52 o'r ardaloedd mwyaf dan anfantais yng Nghymru, gyda'r nod o roi'r sgiliau y mae eu hangen ar bobl i ddod o hyd i waith, hybu iechyd ac addysg a chodi safonau byw.
“Mae'r Pwyllgor yn bwriadu rhoi pwyslais mawr ar drechu tlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys arwain at adolygiadau pwysig ar bolisi cyfredol sydd ar waith ac ymchwilio i ymyriadau ar sail tystiolaeth i drechu achosion sylfaenol anghydraddoldeb yn ein cymdeithas.
“Byddwn yn gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor cyn gynted â phosibl er mwyn i ni gael y diweddaraf am Cymunedau yn Gyntaf a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi.”