Cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yn tynnu raffl y Cynulliad dros Blant Mewn Angen
18 Tachwedd 2011
Daeth Rhys Williams, cyn-chwaraewr rygbi Gleision Caerdydd a Chymru, i ymweld â’r Cynulliad ddydd Gwener 18 Tachwedd i dynnu raffl gyda’r nod o godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen.
Cafodd cacennau eu gwerthu a chynhaliwyd cystadleuaeth ‘dyfalu enw’r arth’ hefyd er mwyn codi arian i’r elusen.