Mae cyn Glerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Claire Clancy, wedi cael ei gwneud yn Fonesig yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Mae Claire wedi cael ei chydnabod am ei rôl mewn gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ar ôl degawd fel Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; gan arwain datblygiad corff democrataidd newydd i un sydd bellach yn arweinydd byd o ran y gefnogaeth y mae'n ei darparu i Aelodau'r Cynulliad.
Yn ystod ei chyfnod daeth y Cynulliad yn gorff seneddol â phwerau deddfu llawn drwy'r refferendwm ar bwerau pellach yn 2011, wedi'i ddilyn gan ddatganoli ychwanegol o ran pwerau drwy Ddeddfau Cymru yn 2014 a 2017.
Dywedodd y Fonesig Claire:
"Rwy'n hynod o falch o fod wedi chwarae rhan yng nghynnydd y Cynulliad wrth iddo fynd o nerth i nerth dros y degawd diwethaf.
"Mae gweithio wrth galon democratiaeth yng Nghymru wedi bod yn fraint enfawr ynddi'i hun. Yr wyf wrth fy modd yn derbyn yr anrhydedd anhygoel hwn.
"I mi y mae, yn bennaf oll, yn deyrnged i'r holl bobl dalentog yr wyf wedi bod mor ffodus i weithio ochr yn ochr â hwy, sy'n gweithio mor galed bob dydd i sicrhau bod y Cynulliad yn llwyddiant. Mae hon yn foment arbennig iawn yn fy mywyd ac rwyf yn hynod ddiolchgar."
Cyn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Claire oedd Prif Weithredwr Tŷ'r Cwmnïau a Chofrestrydd Cwmnïau.
Roedd ei swyddi yn gynharach yn ei gyrfa yn cynnwys Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol yn y Swyddfa Batentau a Phrif Weithredwr Cyngor Hyfforddiant a Menter Powys.
Treuliodd ddwy flynedd hefyd ar ynys St Helena tra roedd ei gŵr yn Brif Ysgrifennydd ac yn ddiweddarach yn Llywodraethwr yno; ymgymerodd â gwaith addysgu a gwaith gwirfoddol arall yn ystod y cyfnod hwn.
Mae ganddi radd mewn seicoleg o'r Brifysgol Agored.