Cynnal Cynhadledd Deirochrog y Llywyddion yng Nghaerdydd
Cyfarfu Llywyddion y gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban am y tro cyntaf yn y Senedd yn ddiweddar. Yn dilyn taith o amgylch y Senedd a chyflwyniad ar waith Gwasanaeth Addysg y Cynulliad, cynhaliwyd cynhadledd gyda swyddogion i edrych ar y berthynas rhwng y tri Chynulliad/Senedd.
Mae’r llun yn dangos William Hay MLA – Llefarydd Cynulliad Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrh yr Arglwydd Elis-Thomas AC ac Alex Fergusson MSP – Llywydd Senedd yr Alban yn y Senedd.