Cynnal enw da, diogelu safonau a mynd i’r afael â phryderon – cyhoeddi adroddiad blynyddol y Comisiynydd Safonau Annibynnol
17 Gorffennaf 2012
Mae Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau Annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol.
Ynddo, mae’n mynd i’r afael â’r cwynion a ddaeth i law yn ystod 2011/12 ac yn tynnu sylw at y gwaith mae’n ei wneud i lunio system safonau fwy hygyrch a thryloyw.
Dywedodd Mr Elias: “Yn ystod fy mlwyddyn lawn gyntaf fel Comisiynydd Safonau, rwy’n falch o allu cofnodi nad oedd dim cwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad a oedd yn cyfiawnhau cael eu cyfeirio at y Pwyllgor.”
“Credaf fod hyn yn dangos bod y diwylliant o safonau uchel wedi bwrw gwreiddiau yng Nghymru a bod gwerth system dryloyw o graffu ar safonau, sy’n deg, yn gadarn ac yn gymesur, yn dwyn ffrwyth.”
Er nad oedd dim cwynion derbyniadwy a symudodd i ymchwiliad ail gam, fe gafodd rhai cwynion eu cyflwyno.
Y grwp mwyaf o lawer o gwynion annerbyniadwy oedd y rhai a oedd yn amau “perfformiad” Aelod Cynulliad, er enghraifft y rhai a oedd yn cyfeirio at honiad o fethu ag ymateb yn ddigonol neu fethu ag ymateb o gwbl i etholwr.
Ychwanegodd Mr Elias yn yr adroddiad: “Heb geisio awgrymu na allai perfformiad fyth fod yn fater sy’n ymwneud â safonau, rwyf yn sicr bod perfformiad Aelod Cynulliad, ar y cyfan, yn rhywbeth i’w ystyried yn y blwch pleidleisio yn y pen draw.”
“Mae risg gwirioneddol y byddai Comisiynydd yn camu i faes democratiaeth pe bai’n ymyrryd yn y mater hwn, ac ni ddylwn wneud hynny.”
Yn ei adroddiad, mae’r Comisiynydd hefyd yn tynnu sylw at yr adolygiad parhaus y mae’n ei gynnal, mewn cydweithrediad â Phwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad.
Dywedodd y Comisiynydd: “Mae fy rôl hefyd yn cynnwys sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad at weithdrefn gwynion sy’n dwyn i gyfrif pan fo angen ac sy’n ymdrin â materion mewn ffordd effeithlon sy’n hawdd i’r achwynwr ei dilyn.”
“Yn hyn o beth, ceir gweithdrefn newydd o ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad, sy’n cynnig system symlach ond sy’n parhau i gydbwyso hawliau Aelodau yn briodol yn erbyn disgwyliad y cyhoedd y bydd ymchwiliad cadarn yn dilyn unrhyw honiad difrifol.”
“Ar ddiwedd y flwyddyn, cymeradwyodd y Pwyllgor Gam 2 o’r broses adolygu ac mae wedi datblygu’n dda.”
“Ac, yn dilyn llunio gweithdrefn gwynion newydd, bydd yn canolbwyntio ar addasrwydd Cod Ymddygiad a Rheolau Sefydlog y Cynulliad, gan gynnwys ailystyried y sancsiynau sydd ar gael i’r Cynulliad Cenedlaethol pan ganfyddir bod Aelod wedi methu â chydymffurfio â rhai ohonynt.”
Comisiynydd Safonau Adroddiad Blynyddol: 01 Ebrill 2011-31 Mawrth 2012