Cynnal gweithdy Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghasnewydd i “hysbysu pobl ac i ymgysylltu â hwy”
9 Mawrth 2010
Bydd Gwasanaeth Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal gweithdy gwybodaeth rhad ac am ddim yn y Ganolfan yng Nghasnewydd ddydd Gwener, 12 Mawrth.
Mae’r gweithdy wedi’i anelu at grwpiau ieuenctid cymunedol, sefydliadau pobl ifanc a phobl ifanc fel unigolion.
Mae’r gweithdy, dan y teitl ‘Deall ac Ymgysylltu â’r Cynulliad’, yn trafod meysydd fel, pwy yw Aelodau’r Cynulliad a sut y mae modd i bobl a sefydliadau ymgysylltu â gwaith y Cynulliad?
Bydd hefyd yn esbonio beth yw Cyfarfodydd Llawn, yn esbonio’r gwaith a wneir gan y pwyllgorau deddfwriaeth a’r pwyllgorau craffu a pha effaith a gaiff y Cynulliad ar bobl trwy Gymru.
Y gobaith yw y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y gweithdy yn cael gwell dealltwriaeth o sut y mae gwaith y Cynulliad yn effeithio ar eu bywyd nhw bob dydd a sut y gallant hwy ymgysylltu â’r gwaith hwnnw.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae’r gweithdai hyn yn rhan o ymdrech barhaus i wella ymgysylltiad â’r broses ddemocrataidd yng Nghymru – sy’n flaenoriaeth er mwyn i ddatganoli ffynnu yn y dyfodol.
Bydd hwn yn gyfle cadarnhaol i bobl ddysgu am y Cynulliad a phwysigrwydd cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, a gobeithio y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y gweithdy yn ei gael yn ddefnyddiol, ac yn llawn gwybodaeth ac y bydd yn ffordd o ysbrydoli pobl i gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad.”
Dywedodd Rebecca Spiller y Rheolwr Cyswllt ac Allgymorth yn Ne Cymru: “Mae’r Gwasanaeth Allgymorth yn cludo’r Cynulliad i bob rhan o Gymru ac mae’r gweithdy hwn yn enghraifft o hynny ar waith.
“Bydd y gweithdy’n gyfle da i bawb sy’n gweithio â phobl ifanc - sefydliadau, grwpiau cymuned neu bobl ifanc eu hunain ddod i glywed beth y mae modd i’r Cynulliad ei wneud iddynt hwy.”
Cynhelir y gweithdy yng Nghanolfan Casnewydd rhwng 9 a 4 o’r gloch a chyflwynir y sesiynau gan y Rheolwr Allgymorth ar gyfer De Cymru, Rebecca Spiller.
I archebu lle, ffoniwch 0845 010 5500, e-bostiwch archebu@cynulliadcymru.gsi.gov.uk <mailto:assembly.bookings@assemblywales.org>, neu ysgrifennwch at Wasanaeth Archebu’r Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Canolfan Ymwelwyr Gogledd Cymru, Parc y Tywysog, Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8PL.