Cynnydd calonogol gan Lywodraeth Cymru i wneud deddfau'n fwy hygyrch - yn ôl un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd o ran gwneud ei ddeddfwriaeth yn fwy hygyrch i'r cyhoedd - yn ôl adroddiad newydd gan un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Ond mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am weld amserlen glir ar gyfer paratoi llyfr statud i Gymru ar ôl synhwyro rhywfaint o newid meddwl o'r datganiadau blaenorol a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol, prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru.
Teimla fod darparu llyfr statud i Gymru yn gydran hanfodol o wella hygyrchedd i gorff cynyddol o ddeddfau nodedig yng Nghymru.
Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, amlygodd Carwyn Jones AC gyfraniad ei lywodraeth i'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gan yr Archifau Cenedlaethol i wella'r wefan legislation.gov.uk, a gwyddoniadur ar-lein y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu a fydd yn rhoi naratif esboniadol o'r gyfraith o fewn meysydd datganoledig.
Aeth ymlaen i sôn bod creu llyfr statud i Gymru yn ymrwymiad hirdymor gan fod prosiect o'r fath yn anferth a bydd yn cymryd amser.
Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: "Mae'r broses o greu a ffurfio deddfwriaeth yn gymhleth ac ar brydiau gall fod yn anodd i’w deall."
"Ond mae angen ffurfio deddfau da drwy gyfraniadau a sylwadau gan bobl Cymru os byddant yn wirioneddol ddemocrataidd, tryloyw ac atebol.
"Credwn fod darparu llyfr statud i Gymru yn gydran hanfodol o wella hygyrchedd i’r corff cynyddol o ddeddfau sy'n unigryw i Gymru, ac felly o ran helpu gyda’r broses ddeddfu hon.
"Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod datblygu llyfr statud i Gymru yn cynrychioli tasg sylweddol i Lywodraeth Cymru ei chyflawni ar y cyd â'i rhaglen ddeddfwriaethol ei hun, ond rydym am weld amserlen glir ar gyfer ei baratoi.
"Mae'n galonogol gweld rhywfaint o'r cynnydd sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru o ran yr amcan hwn, ond rydym hefyd yn synhwyro rhywfaint o newid meddwl o'r datganiadau cadarnhaol a gafwyd gan y Cwnsler Cyffredinol yn y gorffennol."
Nodiadau i Olygyddion
Dylai aelodau o'r cyfryngau sydd am drefnu cyfweliad â David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gysylltu â thîm Cyswllt â'r Cyfryngau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 029 2089 8215.
Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar gael yma