Cynrychiolaeth o Aelodau Cynulliad yn teithio i Ddulyn i roi hwb i borthladdoedd Cymru
11 Mai 2012
Bydd grwp o Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd i gyfarfod llawn y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig (BIPA) yn Nulyn, ar 14 a 15 Mai.
Hwn fydd 44ain cyfarfod llawn BIPA, sy’n dwyn ynghyd gwleidyddion o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Senedd San Steffan, y Senedd Wyddelig, Ynys Manaw, a deddfwrfeydd Gurnsey a Jersey.
Nod y sesiynau yw trafod materion o ddiddordeb cyffredin. Thema’r Cynulliad hwn fydd “Hwyluso busnes rhwng Prydain ac Iwerddon”.
Fel rhan o’r trafodaethau, bydd Aelodau Cynulliad yn trafod dyfodol porthladdoedd Cymru, ac yn arbennig sut y gellir gwella masnach a chysylltiadau rhwng porthladdoedd yng Nghymru ac Iwerddon.
Dywedodd David Melding AC, Dirprwy Lywydd y Cynulliad ac arweinydd y cynrychiolwyr: “Mae BIPA yn bwysig iawn o ran cynnal cysylltiadau rhwng seneddau a chaiff pob math o faterion sydd o ddiddordeb cyffredin eu trafod.
“Mae’n iawn fy mod i a’m cydweithwyr yn mynd ar y daith er mwyn cefnogi buddiannau Cymru, ac ar yr achlysur penodol hwn, buddiannau busnes yng Nghymru.
“Mae ein porthladdoedd yn fywoliaeth i nifer o gymunedau glan môr yng Nghymru, ond maent hefyd yn hanfodol i fusnesau ledled Cymru am eu bod yn allforio eu nwyddau a’u gwasanaethau.
“Byddwn yn trafod porthladdoedd Cymru fel rhan o drafodaeth arfaethedig ar drafnidiaeth a chysylltiadau twristiaeth. Gobeithio y bydd sôn am Gymru yn BIPA yn gyfle i wella cyfleoedd i’n porthladdoedd.”
Bydd Bethan Jenkins AC, Darren Millar AC, William Powell AC a Ken Skates AC yn ymuno â Mr Melding yn Nulyn.
Cynhelir y cyfarfod llawn, am y tro cyntaf, yn Seanad Eireann, sef uwch siambr y Senedd Wyddelig.