Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n croesawu ailbenodiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cyhoeddwyd 16/06/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n croesawu ailbenodiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Heddiw, croesawodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (GOL: Dydd Mawrth16 Mehefin) ailbenodiad Jeremy Colman i’w swydd fel Archwilydd Cyffredinol Cymru. Bydd yn parhau â’i swydd o arwain Swyddfa Archwilio Cymru o ran gwneud gwaith craffu annibynnol ar wariant cyhoeddus ar draws Cymru ac arolygu’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus tan 31 Mawrth 2013.

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad: “Rwy’n hynod o falch y bydd Jeremy Colman yn parhau yn ei swydd gyda Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n bwysig iawn bod gennym gorff annibynnol cryf sy’n cefnogi’r Cynulliad yn ein rôl o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a chynrychioli buddiannau pobl Cymru.”

Dywedodd Jonathan Morgan, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Ers ei benodiad yn 2005, mae Jeremy wedi arwain nifer o archwiliadau amlwg sydd wedi arwain at welliant mewn cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at barhau’r berthynas waith agos rhwng Swyddfa Archwilio Cymru a Phwyllgor Archwilio’r Cynulliad.”