Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n croesawu seminar rhyngwladol ar lywodraethu seneddol

Cyhoeddwyd 23/11/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n croesawu seminar rhyngwladol ar lywodraethu seneddol

23 Tachwedd 2010

Heddiw (23 Tachwedd), bydd dirprwyaeth ryngwladol o seneddwyr y Gymanwlad yn dod i gynhadledd yn y Pierhead fel rhan o bumed seminar rhyngwladol ar lywodraethu seneddol gan Gangen y Deyrnas Unedig o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.

Bydd y seminar, a gynhelir rhwng 14 a 26 Tachwedd yn Llundain, Brwsel a Chaerdydd, yn fforwm i gynrychiolwyr rhyngwladol drafod materion sy’n ymwneud â’r broses o lywodraethu, a gweithredu egwyddorion democrataidd gan gynnwys craffu, atebolrwydd, cyfranogiad hafal a theg a chydweithio’n genedlaethol a rhyngwladol.

Yn ystod eu hymweliad â Chaerdydd, bydd y cynrychiolwyr yn cael cyflwyniad am ddatganoli yng Nghymru a’r Cynulliad Cenedlaethol, cyflwyniad gan grwp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad (Mohammad Asghar AC, Kirsty Williams AC, John Griffiths AC a Jocelyn Davies AC) a chyfle i wylio Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru.

Dywedodd Janet Ryder AC, Cadeirydd Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad: “Rwy’n falch iawn y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu’r ddirprwyaeth ryngwladol o seneddwyr y Gymanwlad i Gaerdydd.

“Caiff y dirprwyon, sy’n dod o wledydd mor agos â’r Alban ac mor bell ag Awstralia, y cyfle nid yn unig i weld adeiladau eiconig y Cynulliad, sef y Senedd a’r Pierhead, ond hefyd i weld model agored, tryloyw, hygyrch a chynaliadwy democratiaeth Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.”