Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ethol Llywydd newydd a Phrif Weinidog

Cyhoeddwyd 11/05/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ethol Llywydd newydd a Phrif Weinidog

11 Mai 2011

Mae Rosemary Butler AC wedi’i hethol yn Llywydd newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  

Hi fydd y Llywydd benywaidd cyntaf yn holl ddeddfwrfeydd datganoledig y DU a’r ail, ar ôl Barwnes Boothroyd, yn holl ddeddfwrfeydd y DU.

Etholwyd yr Aelod dros Orllewin Casnewydd yn ystod Cyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad newydd yn y Senedd. Roedd Rosemary yn Ddirprwy Lywydd rhwng 2007 a 2011 ac mae’n olynu’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, a fu’n Llywydd ers y Cynulliad cyntaf ym 1999.

Wrth dalu teyrnged i’w rhagflaenydd, dywedodd Rosemary: “Mae’r Arglwydd Elis-Thomas wedi bod yn Llywydd eithriadol sydd wedi helpu i arwain y Cynulliad Cenedlaethol o’i gamau petrusgar cyntaf fel deddfwrfa ddatganoledig ym 1999 i’w sefyllfa bresennol fel corff blaengar, uchelgeisiol ac aeddfed sy’n wirioneddol gynrychioli buddion pobl Cymru heddiw.”  

Mae David Melding AC wedi’i ethol yn Ddirprwy Lywydd. Mae’r Aelod dros Ganol De Cymru yn gyn gadeirydd sawl un o bwyllgorau’r Cynulliad: y Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Enwebodd yr Aelodau Carwyn Jones AC hefyd heddiw fel Prif Weinidog Llywodraeth Cymru.

Ef yw arweinydd y blaid fwyaf yn y Cynulliad newydd ar ôl yr etholiad yr wythnos ddiwethaf.

Bydd y Llywydd newydd-etholedig yn argymell yn syth i'w Mawrhydi y Frenhines y dylid penodi Mr Jones yn Brif Weinidog.

Bydd y Prif Weinidog yn awr yn dewis cabinet a fydd yn cynnwys dim mwy na 12 o weinidogion a dirprwy weinidogion, yn ogystal â chwnsler cyffredinol.