Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dechrau ymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 19/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dechrau ymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd yng Nghymru

19 Medi 2011

Yr wythnos hon, bydd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dechrau casglu tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sydd newydd gyhoeddi adroddiad o’r enw ‘O’r golwg yng ngolwg pawb’, sy’n ymchwilio i brofiadau pobl anabl yng Nghymru.

Bydd Aelodau’r Cynulliad hefyd yn casglu tystiolaeth gan Mencap Cymru a’r All Wales Hate Crime Research Project.

Caiff cyfarfod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ei gynnal am 09.30 ddydd Mercher 21 Medi yn Ystafell Bwyllgora 3 yn y Senedd.

Bydd sesiwn dystioaleth bellach ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn cael ei chynnal ddydd Iau 29 Medi 2011.