Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn enwebu Archwilydd Cyffredinol dros dro

Cyhoeddwyd 10/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn enwebu Archwilydd Cyffredinol dros dro

10 Chwefror 2010

Pleidleisiodd Aelodau’r Cynulliad o blaid enwebu Archwilydd Cyffredinol dros dro y prynhawn yma (10 Chwefror).

Bydd Gillian Body, sy’n gweithio ar hyn o bryd fel Partner Rheoli gyda Swyddfa Archwilio Cymru ac sy’n aelod o Bwyllgor Gweithredol y sefydliad yn cymryd yr awenau cyn gynted ag y bydd y Frenhines wedi penodi.

Bydd Gillian Body yn gwasanaethu ar sail dros dro tra bod Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal proses benodi gyflawn i ddod o hyd i berson i gyflawni’r swyddogaeth yn barhaol.

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi gweithredu’n gyflym i sicrhau bod y swydd bwysig hon yn cael ei llenwi cyn gynted ag y bo modd gan ymgeisydd o’r radd flaenaf. .

“Dyna pam ein bod yn argymell y dyali Gillian Body gael y swydd tra bo’r Pwyllgor yn dechrau chwilio am rywun i’w benodi’n barhaol drwy broses benodi agored a thryloyw.”

Gweithredodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i benodi dros dro yn dilyn ymddiswyddiad Jeremy Colman yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Ms Body: “O ganlyniad i waith caled a phroffesiynoldeb y staff, mae Swyddfa Archwilio Cymru’n parhau i ddarparu gwaith annibynnol o’r radd flaenaf i helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Er ein bod wedi bod trwy gyfnod anodd yn ddiweddar, rwy’n hyderus bod gennym sylfaen gadarn i symud ymlaen fel sefydliad. Byddaf yn adeiladu ar y camau cadarnhaol sydd eisoes wedi’u cymryd i wella’r modd y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei chynnal.”

GILLIAN BODY BIOGRAPHY:

Ganwyd Gillian Body yn Thames Ditton yn Surrey a chafodd ei haddysg yn yr ysgol i ferched, Tormead Girls School. Graddiodd ym Mhrifysgol Cymru (Llanbedr Pont Steffan) gyda BA (Anrh) mewn Hanes. Yna dilynodd Gillian ei diddordeb cynnar mewn economeg drwy ymuno â Swyddfa Archwilio Cymru fel hyfforddai ym 1981- gan ennill profiad helaeth mewn gwaith archwilio ariannol a gwerth am arian yn y sector cyhoeddus.

Wedi iddi gymhwyso fel cyfrifydd CIPFA ym 1986, hi oedd â’r cyfrifoldeb am archwilio cyfrifiadurol Cyllid y Wlad a Thollau Tramor a Chartref, ac yna aeth ymlaen i reoli nifer fawr o archwiliadau gwerth am arian ym maes trethi, yr heddlu a’r llysoedd. Ar ddechrau’r 1990au, roedd Gillian yn bennaeth Uned Polisi Corfforaethol y Swyddfa Archwilio Genedlaethol cyn iddi dreulio chwe mis ar secondiad yn Nulyn gyda Swyddfa Archwilio Iwerddon, gan gynorthwyo i sefydlu’r uned gwerth am arian.

Yna cafodd secondiad i Swyddfa Archwilio Genedlaethol Awstralia, a oedd yn cynnwys cyfnod yn gweithio gyda Phwyllgor Seneddol y Gymanwlad. Wedi iddi ddychwelyd i Brydain ym 1995, cafodd Gillian ddyrchafiad a’i phenodi’n Gyfarwyddwr yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, gan ennill profiad fel Cyfarwyddwr Adnoddau Uned a rheoli nifer o archwiliadau gwerth am arian mewn addysg bellach ac addysg uwch ac ym meysydd treftadaeth / loteri.

Ar ôl y broses ddatganoli yng Nghymru ym 1999, ymunodd Gillian â Swyddfa Archwilio Genedlaethol Cymru i gyflawni’r swyddogaeth bwysig o sefydlu gallu’r Swyddfa i gynnal archwiliadau gwerth am arian drwy’r holl weithgareddau yr oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n gyfrifol amdanynt, ac i gefnogi swyddogaeth graffu newydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad. Cafodd Gillian ei dyrchafu i swydd Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru yn 2004. Gan ymuno â Swyddfa Archwilio Cymru pan y’i ffurfiwyd yn 2005, parhaodd i feithrin ei phrofiad helaeth ym maes archwilio gwerth am arian fel Partner Ymgysylltu â chyfrifoldeb am archwiliadau perfformiad cenedlaethol pwysig drwy’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn ogystal ag archwiliadau perfformiad lleol ym maes iechyd. Mae Gillian yn Bartner Rheoli ar gyfer Archwilio Perfformiad ar hyn o bryd, ac yn aelod o Bwyllgor Gweithredol Swyddfa Archwilio Cymru