Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cynnal wythnos o fusnes yn y gogledd ddwyrain yn ddiweddarach eleni, fel rhan o raglen barhaus i ennyn diddordeb pobl Cymru yn ei gwaith.
Cytunodd y Comisiwn - y panel o Aelodau Cynulliad sy'n gyfrifol am redeg y Cynulliad - i gwrdd yn y gogledd yn ddiweddarach yr haf hwn. Mae trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yn parhau.
Dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC:
"Mae cynnwys holl bobl Cymru yng ngwaith y Cynulliad yn un o'n blaenoriaethau allweddol - dyna pam rwy'n gyffrous ein bod ni'n gwneud paratoadau i fynd â'r Senedd i'r gogledd yn ddiweddarach eleni.
"Mae trafodaethau cychwynnol gyda Llywodraeth a Chomisiynwyr Cymru wedi bod yn gefnogol, ac rydyn ni nawr yn gweithio ar fanylion ynglŷn â siap yr wythnos.
"Mae’r fenter hon yn adeiladu ar raglen y Cynulliad o gynnwys ac ymgysylltu â holl bobl Cymru. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi cynnal wythnosau Senedd@ rheolaidd yn Abertawe, Casnewydd, Wrecsam, yr Wyddgrug ac Aberystwyth, lle mae pwyllgorau a gwaith ymgysylltu wedi canolbwyntio ar ardal benodol. Y llynedd, fe wnaethom gynnal Gynulliad Dinasyddion i edrych ar sut rydym yn ymgysylltu â phobl. Mae gennym hefyd raglen reolaidd o weithgaredd addysg ac ymgysylltu ledled Cymru."
Mae'r Comisiwn wedi cytuno i fuddsoddi mewn gwaith ymgysylltu, a gofynnwyd i staff ystyried costau a sicrhau gwerth am arian.
Ychwanegodd y Llywydd:
"Bydd cyfarfod yn y gogledd yn creu cyfleoedd newydd i bobl fynychu a chymryd rhan yng ngwaith y Senedd. Mae'n cynnig posibiliadau cyffrous i ni."
Yr wythnos nesaf, bydd Pwyllgor Busnes y Cynulliad yn ystyried rhaglen fusnes amlinellol ar gyfer yr wythnos, a chyhoeddir manylion pellach maes o law.