Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar benodiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus newydd

Cyhoeddwyd 02/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar benodiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus newydd

2 Ebrill 2014

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymeradwyo penodiad Nick Bennett fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae Mr Bennett, Prif Weithredwr Grwp y corff ambarél ar gyfer cymdeithasau tai, Tai Cymunedol Cymru, wedi'i ddewis fel yr ymgeisydd a ffefrir.

Fel penodiad cyhoeddus, mae'n destun enwebiad ffurfiol gan Aelodau'r Cynulliad a'r gymeradwyaeth derfynol gan Ei Mawrhydi.

Dywedodd Mr Bennett: "Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau yn y swydd ar adeg dyngedfennol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

"Rwy'n gobeithio adeiladu ar lwyddiannau fy rhagflaenydd drwy sicrhau y gall defnyddwyr gwasanaeth ledled Cymru droi at Swyddfa'r Ombwdsmon ac y gallwn helpu i ysgogi gwelliant yn ein gwasanaethau cyhoeddus."

Roedd pedwar ymgeisydd ar y rhestr fer ar gyfer y rôl a chawsant eu cyfweld ar 28 Mawrth.

Argymhellodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Jocelyn Davies AC, Aelod Cynulliad a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a Jim Martin, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban, Mr Bennett fel yr ymgeisydd a ffefrir.

Dywedodd Jocelyn Davies, a gadeiriodd y panel penodi: "Cafodd Mr Bennett ei ddewis oherwydd ei brofiad eang mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a'i ddealltwriaeth gadarn o'r heriau presennol sy'n wynebu deiliad swydd yr Ombwdsmon."

"Dangosodd ei fod yn awyddus iawn i sicrhau y gallai gyfrannu'n gadarnhaol at wella gwasanaethau cyhoeddus."

Ychwanegodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Mae gan Nick hanes rhagorol o ran ei gyfraniad at fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

"Mae ganddo'r holl brofiad angenrheidiol a fydd, rwy'n siwr, yn gwneud ei amser fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn un llwyddiannus iawn."

Ymddangosodd Mr Bennett gerbron Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 31 Mawrth ar gyfer y gwrandawiad cyn enwebu. Trafododd ei weledigaeth a'i flaenoriaethau ar gyfer y rôl a'r heriau wrth ymdrin â chwynion.

Pleidleisiodd Aelodau'r Cynulliad yn unfrydol heddiw (2 Ebrill) i gytuno ar ei benodiad.