Cynulliad Cymru’n lansio ei gynllun cydraddoldeb

Cyhoeddwyd 24/11/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad Cymru’n lansio ei gynllun cydraddoldeb

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ei gynllun cydraddoldeb sy’n nodi ei ymagwedd tuag at gydraddoldeb yn ei rôl fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau i Aelodau’r Cynulliad, eu staff ac aelodau’r cyhoedd.

Mae’r cynllun yn cyfuno dyletswydd y Cynulliad o ran anabledd, rhywedd (gan gynnwys hunaniaeth o ran rhywedd) a hil, ond mae hefyd yn ymestyn i’r agweddau eraill ar gydraddoldeb, sef oed, crefydd/cred a chyfeiriadedd rhywiol. Mae cynllun gweithredu sy’n cyd-fynd â’r cynllun yn rhoi manylion y camau sydd angen i’r Cynulliad eu cymryd i fodloni ei amcanion o ran cydraddoldeb ac i gael gwared ar y rhwystrau sy’n atal cydraddoldeb.

Defnyddiwyd ymarfer ymgynghori a chynnwys i ddatblygu’r cynllun a’r cynllun gweithredu cefnogol. Bydd yn cwmpasu cyfnod o dair blynedd rhwng mis Tachwedd 2008 a mis Tachwedd 2011, a bydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru wedi hynny.

Cynllun Cydraddoldeb 2008-11

Mae crynodeb o’r cynllun ar gael mewn fformatau amgen ac ieithoedd cymunedol ar gais.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad fod y cynllun cydraddoldeb yn dangos ymrwymiad llwyr y Cynulliad i barchu a hybu cydraddoldeb. Diolchodd i bawb a gyfrannodd eu sylwadau a’u syniadau ar gyfer datblygu’r cynllun, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at wneud cynnydd yn y meysydd y mae’r Cynulliad wedi’u nodi ac at barhau i weithio i sicrhau cydraddoldeb drwy ddefnyddio’r arferion gorau.