Cynulliad Dinasyddion cyntaf Cymru yn cwrdd yn Y Drenewydd

Cyhoeddwyd 09/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/07/2019


Ar 19-21 Gorffennaf, mi fydd 60 o bobl o bob cornel o Gymru yn cwrdd fel aelodau o Gynulliad Dinasyddion cyntaf Cymru.

Cafodd yr aelodau eu gwahodd i gymryd rhan o blith 10,000 o gyfeiriadau oedd wedi eu dewis ar hap ac mae'r 60 aelod yn gynrychiolaeth deg o boblogaeth Cymru sy'n 16 oed neu'n hyn. Yn ystod y penwythnos mi fydd yr aelodau yn cwrdd yn Neuadd Gregynog, Y Drenewydd, er mwyn trafod 'sut y gall pobl yng Nghymru lunio'u dyfodol?'

Mi fydd yr aelodau yn cael cyfle i glywed tystiolaeth gan arbenigwyr ac ystyried yn fanwl rhai enghreifftiau sy'n dangos sut mae pobl mewn gwledydd eraill yn dylanwadu ar eu proses ddemocratig nhw. Mi fydd yr aelodau yn pwyso a mesur ac yn cynnig ffyrdd newydd sut y gall dinasyddion wneud hynny drwy waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mi fydd disgwyl iddyn nhw gyflwyno cyfres o argymhellion.

Yn yr hydref, mi fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi adroddiad o ganfyddiadau'r Cynulliad Dinasyddion ac mi fydd yr argymhellion yn cael eu defnyddio er mwyn cynghori eu gwaith. Mi fydd Comisiwn y Cynulliad hefyd yn ymateb i'r canfyddiadau mewn cyfarfod cyhoeddus ym mis Medi 2019.

Mae'r Cynulliad Dinasyddion yn rhan bwysig o weithgaredd y Cynulliad Cenedlaethol i nodi 20 mlynedd o ddatganoli, sy'n edrych ar ddyfodol democratiaeth yng Nghymru.

https://datganoli20.cymru/