Mae angen i drethdalwyr fod yn sicr o system ariannu deg ar gyfer Cymru, lle mae refeniw treth yn sicrhau gwerth am arian

Cyhoeddwyd 24/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/03/2021   |   Amser darllen munud

Llyr Gruffydd

Erthygl gan Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Darparodd Deddf Cymru 2014 y newid mwyaf i setliad Cymru trwy ddatganoli rhai pwerau trethi ac ehangu pwerau benthyca Llywodraeth Cymru. Caiff y pwerau hyn eu tanategu gan y Fframwaith Cyllidol.

Wrth i ni nesáu at ddiwedd tymor y Pumed Senedd, teimlai aelodau Pwyllgor Cyllid y Senedd ei bod yn bwysig myfyrio ar weithrediad y pwerau hyn, effeithiolrwydd y fframwaith cyllidol a mesur ymwybyddiaeth o drethi datganoledig. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ddechrau mis Chwefror, a bydd y Senedd yn trafod y canfyddiadau ddydd Mercher yma, 24 Mawrth.

Cyllideb Llywodraeth Cymru yw tua £18 biliwn y flwyddyn, a ariennir yn bennaf drwy grant bloc Cymru, tra bod tua 20 y cant o’r gyllideb bellach yn cael ei ariannu drwy refeniw treth, sy’n cynyddu atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru.

Wrth gwrs, nid y Senedd a Llywodraeth Cymru yn unig sy’n gyfrifol am lwyddiant datganoli cyllidol yng Nghymru - mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol hefyd. Yn anffodus, gwrthododd y Prif Ysgrifennydd sawl gwahoddiad i ddod i gyfarfod Pwyllgor, sy'n golygu bod safbwynt Llywodraeth y DU ynghylch nifer o faterion cyllido arwyddocaol i Gymru yn parhau i fod yn aneglur i ni. 

Er bod datganoli cyllidol yn y camau cymharol gynnar o hyd, nododd ein hymchwiliad nifer o feysydd y mae angen eu gwella.

Arian a ddyrennir gan Lywodraeth y DU

Rydym oll yn ymwybodol o’r ansicrwydd rydym wedi’i wynebu dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd Brexit, Etholiad Cyffredinol y DU a’r pandemig COVID-19. Mae'r digwyddiadau hyn wedi arwain at ddyraniadau cyllid tymor byr ac oedi digwyddiadau cyllidol, gan arwain at anawsterau i Lywodraeth Cymru wrth wneud penderfyniadau cyllido tymor hir ac effeithio ar yr amser sydd gan y Pwyllgor i graffu. Mae’r rhain yn faterion y mae gweinyddiaethau datganoledig eraill wedi’u teimlo hefyd.

Mae'n glir bod cymhlethdod a diffyg tryloywder yn y system ar gyfer cyllido Cymru, sy’n ei gwneud yn anoddach cael dealltwriaeth glir o'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â gwneud ein rôl graffu yn anoddach. Mae'r diffyg tryloywder yn amlwg yn arwain at anghydfodau mewn perthynas â chyllido, gyda Llywodraeth y DU yn chwarae rôl y barnwr a’r rheithgor. Credwn y dylid cael proses ddyfarnu annibynnol i reoli anghytundebau rhwng y ddwy Lywodraeth.

Yn ei hymateb i'n hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gefnogi rhagor o dryloywder, ac mae’n mynd ymhellach fyth gan ddweud y dylai'r system bresennol gael ei disodli gan drefniadau cyllido y cytunwyd arnynt ar y cyd.

Dulliau o reoli’r gyllideb

Er bod y Fframwaith Cyllidol yn darparu offer i Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i reoli benthyca adnoddau a Chronfa Wrth Gefn Cymru, rydym ni fel Pwyllgor bob amser wedi ystyried bod y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cael yr un hyblygrwydd ag awdurdod lleol ar ddiwedd blwyddyn yn anghyson – mae angen i Lywodraeth Cymru allu gweithredu cynlluniau strategol tymor hir. Er ein bod wedi gweld newid dros dro eleni oherwydd COVID, mae digwyddiadau'r 12 mis diwethaf yn cyflwyno dadl gryfach dros fwy o hyblygrwydd ar ddiwedd blwyddyn.

Ymwybyddiaeth o ddatganoli cyllidol

Ym mis Ebrill 2018 cyflwynwyd deddfwriaeth trethi ar gyfer Cymru i ddisodli Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Dirlenwi y Deyrnas Unedig, sef y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Ers mis Ebrill 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am bennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru.

Cawsom ein siomi i glywed bod yr ymwybyddiaeth o drethi datganoledig ymhlith busnesau, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd yn isel. Mae'n destun pryder yn arbennig nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn ein harolwg yn ymwybodol o Gyfraddau Treth Incwm Cymru, sef treth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei thalu'n rheolaidd fel rhan o'u treth incwm.

Wrth gwrs, mae Cyfraddau Treth Incwm Cymru wedi aros yr un fath â chyfraddau’r Deyrnas Unedig – sy’n golygu nad oes cymhelliant i bobl ddeall y gwahaniaeth – ond mae’n hanfodol bod trethdalwyr Cymru yn ymwybodol bod rhan o'u treth incwm yn cael ei dalu’n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Wrth i ni agosáu at yr etholiad, bydd trethiant yn rhan o faniffestos ac mae angen i ni sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn deall pwerau'r Senedd.

Dull datganoli trethi

Yn ôl yn 2018 cysylltodd Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU i ofyn am gymhwysedd dros dreth tir gwag, ond wrth i ni nesáu at ddiwedd tymor y Senedd hon, nid yw’r cymhwysedd wedi'i ddatganoli o hyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym nad yw ei phrofiad o geisio pwerau treth ychwanegol wedi bod yn broses hawdd na syml hyd yma. Er ein bod yn cydnabod bod y cynnig cyntaf i geisio cymhwysedd ar gyfer treth newydd yn debygol o gymryd mwy o amser i ddatrys y broses, mae’n codi’r cwestiwn a yw’r broses yn addas at y diben.

Mae datganoli cyllidol yn y camau cynnar o hyd yng Nghymru, ond mae ein gwaith yn dangos pa mor hanfodol yw monitro’r prosesau sydd ar waith a chraffu arnynt. Mae angen i ni sicrhau bod y prosesau'n addas at y diben, er mwyn i Lywodraeth Cymru allu cynllunio gwariant yn effeithiol, er mwyn i Aelodau o'r Senedd graffu ar Lywodraeth Cymru, ond yn bwysicaf oll er mwyn i drethdalwyr Cymru fod yn sicr o system ariannu deg ar gyfer Cymru, lle mae refeniw treth yn sicrhau gwerth am arian.