Dadl gyntaf ar un o adroddiadau’r Pwyllgor Deisebau yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad
Bydd adroddiad gan Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad ar ddysgu seiliedig ar waith i bobl ifanc sy’n agored i niwed yn cael ei drafod yn ystod Cyfarfod Llawn heddiw (16 Chwefror) – y tro cyntaf i un o adroddiadau’r pwyllgor gael ei drafod.
Mae natur y Pwyllgor yn golygu nad yw ei waith fel arfer yn cael ei drafod yn ystod y Cyfarfod Llawn, ond bydd ei adroddiad ar ddarparu dysgu seiliedig ar waith yn cael ei drafod yn ffurfiol gan Aelodau’r Cynulliad.
Deilliodd yr ymchwiliad gwreiddiol o ddeiseb gan Gweithredu dros Blant a oedd yn honni nad oedd dysgu seiliedig ar waith yn diwallu anghenion pobl ifanc sy’n agored i niwed – yn enwedig y rhai sy’n byw’n annibynnol.
Canfu’r adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, fod y dysgwyr sy’n fwyaf agored i niwed yn wynebu rhwystrau ychwanegol o ran gwneud cynnydd drwy ddysgu seiliedig ar waith.
Dangosodd yr adroddiad dilynol fod diffyg cefnogaeth personol ar gael i rai dysgwyr seiliedig ar waith ac argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried penodi cynghorwr i’r rhai sy’n byw’n annibynnol.
Amlygodd yr adroddiad hefyd y gwahaniaeth o ran lefelau incwm rhwng y rhai sy’n ddysgwyr seiliedig ar waith a’r rhai sydd mewn addysg bellach, a bod hynny’n anghymelliad i ddysgwyr ifanc na all fforddio gymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith.
Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru ail-ystyried y gefnogaeth ariannol a roddir i ddysgwyr seiliedig ar waith sy’n agored i niwed, a soniodd y dylid cael asiantaeth i arwain y gwaith o hwyluso cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol.
Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Bydd yn fraint i mi gael agor y ddadl gyntaf yn y Cyfarfod Llawn ar ran y Pwyllgor Deisebau.
“Deilliodd yr ymchwiliad hwn o ddeiseb gan Gweithredu dros Blant, sy’n dangos y modd y mae’r broses ddeisebau wedi datblygu ac aeddfedu dros y pedair blynedd diwethaf, a sut y gall y cyhoedd ddylanwadu ar waith y Cynulliad Cenedlaethol o graffu ar Lywodraeth Cymru.
“Cydnabu ein hadroddiad y gwnaed gwelliannau sylweddol i ddysgu seiliedig ar waith dros y blynyddoedd diwethaf, ond amlygodd amryw o bryderon – yn enwedig i’r dysgwyr sy’n fwyaf agored i niwed sy’n byw’n annibynnol neu’n ddigrartref.
“Mae’r grwpiau hyn o bobl ifanc yn awyddus dros ben i ddatblygu eu sgiliau a dechrau ar yrfaoedd ystyrlon, ond gallant wynebu amryw o rwystrau ac mae’n rhaid iddynt fod yn neilltuol o ddygn yn eu hymdrechion.
“Mae arnom ddyled iddynt hwy, er mwyn sicrhau bod ganddynt fynediad at ddysgu seiliedig ar waith o safon uchel sy’n eu helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymateb cadarnhaol y Llywodraeth i’r adroddiad ac rydym yn edrych ymlaen at ei drafod yn y Cyfarfod Llawn heddiw.”