Bydd yr Is-gadfridog Jonathon Riley, un o gadlywyddion mwyaf profiadol Byddin Prydain, yn traddodi darlith flynyddol y Cynulliad Cenedlaethol i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, a hynny yn y Pierhead ddydd Mawrth 8 Tachwedd.
Yn y ddarlith, bydd yn archwilio cadoediad Nadolig 1915, stori sy’n aml yn mynd yn angof.
Ysgrifennwyd cryn dipyn am gadoediad 1914 pan roddwyd y gorau i’r brwydro’n answyddogol mewn nifer o ardaloedd ar y Ffrynt Gorllewinol, ac roedd Ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn rhan o’r cadoediad hwn.
Croesodd y milwyr faes y gad i gyfnewid cyfarchion y tymor, bwyd a rhoddion. Cafodd carcharorion eu cyfnewid a chladdwyd y meirw gyda’i gilydd. Y rhan fwyaf cyfarwydd o’r cadoediad efallai, yw hanes y milwyr yn chwarae pêl-droed gyda’i gilydd.
Flwyddyn yn ddiweddarach, rhoddodd cadlywyddion y Cynghreiriad orchymyn pendant i atal hyn rhag digwydd eto. Er hyn, cafwyd ambell gadoediad ac, unwaith eto, roedd rhai o filwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol yn rhan o’r hanes.
Bydd yr Is-gadfridog Riley, un o gyn gadlywyddion y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, sydd bellach yn hanesydd milwrol, yn dod â’r ddau gadoediad yn fyw drwy lygaid a hanesion swyddogion a milwyr o Gymru, gan gyflwyno rhai o’r disgrifiadau mwyaf gwerthfawr o’r hyn ddigwyddodd ar faes y gad.
Mae’r ddarlith goffa yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cynnal o amgylch Dydd y Cadoediad eleni, gan gynnwys gwasanaeth a dwy funud o dawelwch yn y Neuadd am 11.00 ar 11 Tachwedd.
Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fydd yn llywyddu’r ddarlith goffa:
"Roedd cadoediadau’r Nadolig yn dangos trugaredd dynion tuag at ei gilydd ar adeg o wrthdaro mawr," meddai Elin Jones AC.
"Aberthodd llawer o’r dynion hyn y cyfan er ein mwyn ni, ond fe lwyddon nhw hefyd i ddangos bod tir cyffredin, urddas a pharch i'w cael er gwaethaf unrhyw wahaniaeth rhyngom.
"Rwy'n edrych ymlaen yn arw at glywed yr Is-gadfridog Riley yn dod â’r straeon hyn yn fyw."
Mae'r ddarlith yn cyd-daro ag arddangosfa yn y Pierhead rhwng 1a 30 Tachwedd a drefnwyd gan Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a phartneriaid yn yr Almaen, Gwlad Belg a Ffrainc i nodi canmlwyddiant cadoediad 1914. Mae mynediad i’r arddangosfa’n rhad ac am ddim drwy’r mis ac mae’r oriau agor i'w gweld ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.
Caiff y ddarlith ei chynnal yn y brif neuadd ddydd Mawrth 8 Tachwedd a bydd yn dechrau am 18.00.
Er bod mynediad am ddim, mae lleoedd yn brin, felly os ydych am archebu tocyn, ffoniwch 0300 200 6565, neu e-bostiwch contact@cynulliad.cymru erbyn dydd Gwener 4 mis Tachwedd.
Mae’r Is-gadfridog Riley, un o gyn gadlywyddion y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, wedi arwain milwyr yn Bosnia, Sierra Leone, Irac ac Afganistan. Mae’n awr yn hanesydd milwrol, yn awdur cyhoeddedig ac mae’n cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Gweld y digwyddiad ar Facebook