Datganiad ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 29/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: "Adroddiad diweddaru ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus" a gyhoeddir ar 29 Ionawr 2015.

"Croesewir y cynnydd a wnaed wrth ymdrin â llawer o'r materion a godwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ein hadroddiad ym mis Rhagfyr 2013 ar Ofal Iechyd Parhaus y GIG.

"Fodd bynnag, nid yw perfformiad rhai byrddau iechyd wrth ymdrin ag ôl-hawliadau yn dderbyniol ac mae angen rhoi sylw i hyn ar unwaith er mwyn sicrhau bod pobl yn cael ymateb yn brydlon ac yn rhesymol. Mae angen i GIG Cymru fod ar y blaen o ran y mater parhaus hwn, ac aros yno.

"Byddaf fi ac aelodau eraill o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am gael sicrwydd ar y pwnc hwn mewn sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar 3 Chwefror 2015."