Mae Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Glastir.
Wrth gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi dysgu rhai gwersi o'i phrofiad blaenorol o reoli cynlluniau amaeth-amgylchedd, mae'r adroddiad hwn yn amlinellu gwendidau sylweddol yn y modd mae'n gweithredu Glastir.
Mae'r lefel o ddefnydd, ynghyd â'r diffyg realaeth ymddangosiadol mewn rhai agweddau o broses gosod targedau'r Llywodraeth, yn siomedig. Yn ogystal, mae'r ffaith nad oes meini prawf llwyddiant clir yn bodoli yn golygu y bydd hi'n anodd asesu effaith gyffredinol y cynllun. Ond yn fwy sylfaenol, gallai gwerth ychwanegol Glastir fod yn amheus os bydd rhai deiliaid tir yn cael cyllid grant pan nad yw'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud newidiadau sylweddol i'w harferion rheoli tir.
Yn ei adroddiad ar gynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal ym mis Medi 2008, gwnaeth Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru [fel yr oedd ar y pryd] argymhellion ynghylch y ddau fater hyn ac mae'n destun gofid nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael yn llawn â'r materion hynny yng ngyd-destun cynllun Glastir.
Mae'r Pwyllgor wedi bod â diddordeb brwd yn nhrefniadau rheoli grantiau Llywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd yn ystyried yr adroddiad diweddaraf hwn yn ei gyfarfod ar 16 Medi 2014.
Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.